Pafiliwn

Sylwer: Os yw’r tywydd yn anffafriol cynhelir y seremoni yn y Pafiliwn 

Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i hosgordd  

Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl  

Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd  

Gweddi’r Orsedd: Owain Cadog 

Emyn Tôn: Rhosymedre 

Mawrygwn di, O Dduw, 

am bob celfyddyd gain, 

am harddwch ffurf a llun, 

am bob melyster sain: 

Ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, 

bendithia gamp y rhai sy’n creu. 

Mawrygwn di, O Dduw, 

am ein treftadaeth hen, 

am rin y bywyd gwâr 

ac am drysorau llên: 

Ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, 

bendithia gamp y rhai sy’n creu. 

Mawrygwn di, O Dduw 

am wreiddiau i’n bywhau 

ac am gymdeithas dda 

sy’n cymell dy fawrhau: 

Ti’r hwn sy’n puro ein dyheu, 

bendithia gamp y rhai sy’n creu. 

W. Rhys Nicholas

Y Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd 

Cyflwynydd y Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd: Elin Tesni Bartlett 

Llawforynion y Llys: Gwenllian Bostock ac Eiri-Haf Jones 

Un o ieuenctid bro’r Eisteddfod sydd i gyflwyno’r Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd. Wrth eu hestyn i’r Archdderwydd fe ddywed:  

‘Hybarch Archdderwydd, yn enw ieuenctid ein gwlad, gofynnwn iti dderbyn y rhodd hon o gynnyrch tir a daear Cymru.’ 

Bydd yr Archdderwydd yn ateb:  

‘Rwyf yn derbyn y rhodd hon o gynnyrch tir a daear Cymru yn symbol o’n hymroddiad ni i gyd yng ngwasanaeth yr iaith Gymraeg a diwylliant cyfoethog ein gwlad. Diolch i ti, fy chwaer. Gweddïwn am fendith y Nef arnat ti ac ar holl ieuenctid ein cenedl.’ 

Plant y Ddawns: Awen Mai Llwyd Davies, Carys Tomlinson, Cati Siriol, Charlotte James-Evans, Elan Davies, Elen Aur, Ffion Greenwood, Grug Gwent, Hana Slaughter, Jasmine Prince, Lily Jones, Lleuwen Catrin Baglin, Macey Turner, Marged Aur, Maysi Jordan, Nansi Williams, Paige Purslow, Ria Thomas 

Hyfforddwyd y dawnswyr gan Angharad Harrop, Meinir Siencyn a Cari Sioux 

Cân Werin: Cadi Mars 

Urddo aelodau newydd Er anrhydedd yr Orsedd 

Cau Cylch yr Orsedd: Yr Archdderwydd Mererid 

Hen Wlad fy Nhadau 

Gorymdaith yr Archdderwydd a’r Orsedd o’r Cylch 

Telynores y Seremoni: Telynores Waengoleugoed 

Cefnogir y seremoni gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen