Trafnidiaeth gyhoeddus
Trenau
Mae gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol yn un o’r prif orsafoedd ar y daith o ogledd i dde Cymru, ac mae hefyd yn cysylltu â phrif lein gogledd Cymru drwy wasanaeth Wrecsam i Bidston - gyda threnau’n cyrraedd a gadael yn rheolaidd drwy gydol y dydd ac yn hwyr i’r nos.
Ewch i https://trc.cymru/ am ragor o wybodaeth ar y gwasanaeth trenau. Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan Traveline Cymru, https://www.cymraeg.traveline.cymru i gynllunio eich taith.
Bysiau
Mae gan ardal Wrecsam rwydwaith eang o fysiau cyhoeddus yn rhedeg drwy’r dydd a chyda’r nos.
Mae rhagor o wybodaeth am fysiau ardal Wrecsam yma, https://www.cymraeg.traveline.cymru, a gallwch ddefnyddio’r wefan hon i gynllunio’ch taith.
Bydd gwasanaeth TrawsCymru T3 hefyd yn gwasanaethu'r Maes bob dwy awr o orsaf fysiau Wrecsam. Mae'r gwasanaeth T3 yn sicrhau taith uniongyrchol i'r Maes o Abermaw, Dolgellau, Bala, Corwen a Llangollen.
Bysiau gwennol rhwng y Maes a’r ddinas
Bydd gwasanaeth bws gwennol rhad ac am ddim yn rhedeg yn rheolaidd rhwng yr orsaf drenau, yr orsaf fysiau yng nghanol y ddinas a’r Maes drwy gydol y dydd ac yn hwyr i’r nos.
Mae'r rhain yn fysiau lefel-isel, sy'n addas i gadeiriau olwyn.
Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn yn fuan.
----------------------------------------------
Cyrraedd mewn car
Gorfod teithio mewn car i’r Eisteddfod? Gwnewch yn siwr eich bod chi’n dilyn yr arwyddion ‘Eisteddfod’ melyn i gyrraedd y Maes.
Mae’r arwyddion wedi’u gosod er mwyn hwyluso traffig, yn dilyn trafodaethau helaeth gyda’r Cyngor lleol a’r gwasanaethau brys ac argyfwng, ac mae ein cynllun trafnidiaeth wedi’i greu er mwyn eich helpu chi i’n cyrraedd mor hawdd a diogel â phosibl.
Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, Hwyrnos a maes pebyll Maes B, ynghyd â’r meysydd parcio i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod yn Is-y-coed, Wrecsam.
Bydd yr arwyddion yn annog pawb i gyrraedd y Maes o gyffordd 6, A483 (Gresffordd).
Bydd traffig o’r A55 yn dilyn yr arwyddion o oleuadau traffig cyffordd yr A483 a’r B5445 (Belgrave) yn cael ei arwain i’r de i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483.
Bydd traffig o gyfeiriad Yr Wyddgrug ar yr A541 (cyffordd 5, A483), ardal Rhuthun ar yr A525 (cyffordd 4, A483), ardal Rhosllannerchrugog ar y B5605 (cyffordd 3, A483), Johnstown ar y B5426, Ffordd Bangor (cyffordd 2, A483) ac ardal Llangollen / Dyffryn Ceiriog ar yr A5 (cyffordd 1, A483) yn cael ei arwain i’r gogledd i gyffordd 6 (Gresffordd) ar yr A483.
Bydd traffig o gyfeiriad Croesoswallt ar yr A5 (gan gynnwys traffig o dde Cymru), yn gadael yr A483 ar gyffordd 6 (Gresffordd).
Bydd traffig o Fangor is y Coed yn dilyn yr arwyddion o ochr dde stad ddiwydiannol Wrecsam wrth oleuadau traffig Lôn Groes (Cross Lanes). Bydd traffig yn cael ei gyfeirio i’r dde ar y B5130 tuag at Yr Holt, gan basio drwy Talwrn a Bowling Bank cyn troi i’r chwith ar Ffordd Ridley Wood.
Parcio
Dilynwch yr arwyddion i’r meysydd parcio a pheidiwch â pharcio wrth ochr y ffordd.
Cofiwch ddilyn cyfarwyddiadau’r stiwardiaid yn y Maes Parcio. Maen nhw yno i helpu ac i’ch hwyluso wrth i chi gyrraedd a gadael y maes parcio. Mae Parcio AM DDIM.
*Dylai ymwelwyr anabl gyda bathodyn glas ddilyn yr arwyddion i'r maes parcio anabl*
Mannau gollwng
Bydd man penodol ar gyfer bysiau a thacsis er mwyn codi a gollwng teithwyr yn agos at y fynedfa i’r Maes. Bydd arwyddion clir i’ch arwain yno.
----------------------------------------------
Tacsis trwyddedig
Dyma restr o gwmnïau tacsis trwyddedig gan Gyngor Wrecsam:
- Wrexham Prestige taxis 01978 357777
- Apollo Taxis 01978 262626
- Speedie Cars 01978 262829
- Yellow Cars 01978 286286
- Station Cars 01978 363661
- Cresta Cabs 01978 353500
- Diamond Cars 01978 351234
- Wrexham Executive Travel & Minibus Ltd 01978 504064