Maes D

O Aberdâr i'r Palladium, Ieuan Rhys fydd yn holi'r diddanwr bytholwyrdd Johnny Tudor am ei fywyd a'i yrfa


O'i enedigaeth yn Aberdâr, ei fagwraeth ym Maesteg i ddiddanu ar lwyfan y London Palladium gyda Dorothy Squires. Hefyd cawn wybod sut aeth Johnny ati i ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â'i wraig, yr actores Olwen Rees. Sgwrs, cân a dawns - ffordd hamddenol i dreulio'r hwyr brynhawn yn yr Eisteddfod