Encore

Dewch i gydganu mewn sesiwn gyda'r gantores Siân Meinir ac Elain Rhys ar y piano, gyda chân a chyflwyniad arbennig gan grŵp Codi Llais


Mae Pobl yn Gyntaf Cwm Taf yn sefydliad hunan-eiriolaeth wedi ei sefydlu ac yn cael ei redeg gan oedolion ag anableddau dysgu, a hynny er mwyn cyd-gynhyrchu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel bod ganddynt lais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau. Ffurfiwyd y grŵp Codi Llais ac ysgrifennwyd cân o'r enw 'Ysbrydoli Byd' i rannu neges o gydraddoldeb, parch ac urddas