Llwyfan y Maes

Dewch i weld sêr yfory yn perfformio cerddoriaeth sy'n gyfeiliant perffaith i brynhawn yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd! Ymunwch â cherddorfa llinynnau a band chwyth a phres Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf wrth iddynt berfformio amrywiaeth o gerddoriaeth wedi'i hysbrydoli gan Gymru a thu hwnt


Mae'r gerddorfa linynnau yn cyfuno myfyrwyr llinynnol Rhondda Cynon Taf mewn un grŵp mawr. O ddechreuwyr newydd i fyfyrwyr profiadol, bydd yr ensemble hwn yn perfformio darnau gan Karl Jenkins a pheth deunydd Cymreig traddodiadol, gan gynnwys cyfres o riliau a drefnwyd gan Jordan Williams o VRï.

Bydd yr ensemble chwyth a phres yn perfformio themâu cynhyrfus, llawer ohonynt yn adnabyddus i unrhyw ffan cerddoriaeth.

Mae Gwasanaeth Cerdd RhCT yn falch o ddod â dawn gerddorol eu myfyrwyr i Lwyfan y Maes am y tro cyntaf! Maent yn perfformio gydag aeddfedrwydd y tu hwnt i'w blynyddoedd ac rydym yn hyderus y byddant yn eich hudo gydag ansawdd eu perfformiad