Llwyfan y Maes

Band ddaeth at ei gilydd yn wreiddiol trwy weithdai cyfansoddi Menter Caerdydd dan arweinyddiaeth Mei Gwynedd cyn mynd o nerth i nerth; bellach maen nhw wedi rhyddhau eu EP cyntaf, ‘Diwrnodau Haf’ ac mae albwm ar y gweill


Mae'r bois wedi bod yn lwcus i hedleinio Clwb Ifor Bach, cefnogi Dafydd Iwan mewn gig ym Mhenarth, recordio Noson Lawen a pherfformio yn Triban, Tafwyl, Parti Ponty, Caffi Maes B a mwy! Maent yn edrych ymlaen i chwarae yn yr Eisteddfod eleni