Encore

Cyfle i glywed rhai o ganeuon y sioe gerdd newydd am gymoedd y de gan yr awdur-gyfansoddwr, Kieran Bailey, gydag aelodau o'r cast gwreiddiol. Mae glo, diwylliant a'r gymuned yn cael eu hadfywio yn y sioe gerdd newydd sbon yma sy'n dathlu hanes, hiwmor a hiraeth cymoedd De Cymru


Ar adeg pan oedd glo’n teyrnasu a bywydau glowyr yn rhad, mae ‘Turning the Wheel’ yn adrodd hanes sut y bu i ymdeimlad dwfn o ysbryd cymunedol a chyfeillgarwch ysbrydoli cymunedau diwydiannol y Cymoedd i leisio’u barn.

Yn dilyn cyfres o berfformiadau llwyddiannus yn theatr y Parc a’r Dâr ym mis Mawrth 2024, mae 'Turning the Wheel’ yn dychwelyd i roi blas i gynulleidfaoedd newydd o’r sioe gerdd Gymreig hon sy’n llawn caneuon crefftus a bachog. Trosiad Cymraeg o'r caneuon gan Gwawr Loader