Y Babell Lên

Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924. Mae’r bardd Prosser Rhys newydd ennill y Goron am ei gerdd sy’n sôn am ei berthynas rywiol… efo dyn arall! Sgandal ar y Maes!

"Sioe gerdd cwiar Gymraeg llawn gwychder" gan Seiriol Davies sy'n ail-fyw'r seremoni Goroni dyngedfennol honno 100 mlynedd yn ôl … ond efo 'chydig bach o ddychymyg, ysbrydion arswydus, cynfasau gwely ciwt iawn, gemwaith, gliter a fferets!


Hyd yn oed wrth ei Goroni, mae Archdderwydd yr Orsedd yn lladd ar ffordd o fyw fudr, “ddi-Gymraeg”, y bardd. Ni chafodd y gerdd erioed ei hailargraffu.

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod eleni am noson bryfoclyd, llawn canu ac ychydig bach o ddawnsio wrthi i ni geisio darganfod be’ yffach ydi’r Orsedd 'ma!

Cymerwch eich sedd. Ac ar ganiad y corn, byddwch yn fendigêd!

Cyfarwyddo gan Gethin Evans. Ariannir gan Gronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru