Cymdeithasau

Mae Llywodraeth Cymru'n gwario hanner biliwn o bunnau mewn blwyddyn yn annog myfyrwyr i adael Cymru. Cyflwyniad gan yr addysgwr, Dr Huw Griffiths, a thrafodaeth i ddilyn


Mae Llywodraeth Cymru'n gwario hanner biliwn o bunnau ar gyllido myfyrwyr i astudio mewn prifysgolion y tu hwnt i Gymru. Bu cynnydd o 60% yn y gwariant hwn dros y bum mlynedd ddiwethaf. Caiff ei wario mewn cyfnod o argyfwng ariannol i brifysgolion Cymru.

Mae Dyfodol i'r Iaith yn galw ar y Llywodraeth, er lles ein prifysgolion, ein heconomi, ein pobl ifanc a'n hiaith, i newid cyfeiriad