Llwyfan y Maes

Gadewch i diwns hafaidd a churiadau bachog Gwilym roi gwên ar eich wyneb a'ch gorfodi i ddawnsio!


Mewn saith mlynedd, mae Gwilym wedi sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf y sin gerddoriaeth yng Nghymru gyda chaneuon fel ‘cynbohir’ a ‘\Neidia/’ i'w clywed yn gyson ar y radio.

Yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf, ‘Sugno Gola’ (2018) a llu o wobrau, rhyddhawyd yr ail albwm, 'ti ar dy ora' pan ti'n canu', yn haf 2023