Pafiliwn

Beirniaid: Elgan Llŷr Thomas, Gail Pearson a Robert Davies

Cyfeilyddion: Branwen B Evans, Jane Samuel, Jeffrey Howard a Rhiannon Pritchard

Bydd y panel beirniaid yn dewis tri chystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 19 ac o dan 25 oed i ganu eto yn y rownd derfynol
(a) Yr unawd (Rhan A) yn y dosbarth
(b) Hunanddewisiad o unawd gan gyfansoddwr o Gymro ac eithrio dewisiadau Rhan B unawdau 19 ac o dan 25 oed

Gwobr Cronfa Goffa Violet Mary Lewis: £220 yn rhoddedig gan ei mab, Dr Cyril David Jones, Michigan, UDA, a’i merch Phyllis Marie Jones-Gaide, Florida, UDA, i’r soprano mwyaf disglair rhwng 19 ac o dan 25 oed

Gwobr Coffa David Lloyd: £160 | Cronfa Goffa Jean Skidmore, Aberdyfi: £60 i'r tenor mwyaf disglair rhwng 19 ac o dan 25 oed

    Gwobr: Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr gan Sefydliad Cymru Gogledd America i’w galluogi i berfformio yng ngŵyl NAWF (North America Wales Festival) 2025, Ysgoloriaeth William Park-Jones i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts: £2000 | Ysgoloriaeth William Park-Jones i’r unawdydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau Gwobr Goffa Osborne Roberts: £1000 | Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Llundain i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts: £500 a £150 (Teulu Rowena Williams, er cof am Rowena Williams (Pwllheli) a aned yn Abercynon yn 1927)