Tŷ Gwerin

Datblygiad diweddaraf cywaith Lleuwen Steffan gyda hen emynau a phregethau rhyfeddol. Yn ymuno â hi am y tro cyntaf mae band Tafod Arian: Gethin Elis, Brieg Guerveno, Nolwenn Korbell a Sioned Webb


Yn gyfuniad o gerddorion o Gymru a Llydaw bydd y band yn cyfuno archif sain o Amgueddfa Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru efo offerynnau electronig a thraddodiadol. Mae Tafod Arian yn ddathliad o draddodiad emynyddol Cymru