Theatr Stryd a Dawns

Cabaret syrcas sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd trwy lygaid tri diddanwr rhyfedd a arferai weithio ar HMS Stormus ac sydd nawr yn byw ar y môr ymhell yn y dyfodol. Comisiynwyd gan Gonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru a chefnogwyd gan Articulture Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru


Y flwyddyn yw 2827 ac mae’r argyfwng hinsawdd wedi digwydd. Yr unig ffordd mae pobl yn llwyddo i oroesi yw trwy fyw ar longau mordaith rhydlyd islaw lefel y môr. Mae'r perfformwyr ar dân eisiau eich diddanu gyda’u triciau trawiadol, oherwydd does neb wedi cymryd unrhyw sylw ohonynt ers blynyddoedd. Felly, dewch yn llu, dewch yn llu!