Theatr Stryd a Dawns

Dewch i ddathlu cylch y flwyddyn mewn sioe awyr agored sy'n rhoi golwg newydd ar rai o draddodiadau hynaf Cymru. Cewch rannu yn y defodau ac arferion gwerinol sy’n dwyn pobl ynghyd ar droad y tymhorau gyda dawns gyfoes egnïol sy'n plethu Calan Mai a Chalan Hen, hirddydd haf a’r gyhydnos, y Cadi Ha a’r Fari Lwyd


Mae Mari Ha! yn waith cyffrous sy’n cyfuno dawns, dylunio a cherddoriaeth mewn ffordd sy’n torri tir newydd. Mae’n dathlu’r pŵer sydd gan fyd natur i ddod â phobl ynghyd i greu cymuned a diwylliant.

Comisiwn ar y cyd gan Fenter Bro Morgannwg ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw Mari Ha!, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a’r Green Man Trust.

Coreograffi: Osian Meilir
Perfformwyr: Alex Marshall Parsons, Cêt Haf, Elan Elidyr ac Osian Meilir

Gwisgoedd: Dylunio gan Becky Davies a'u creu gan Amy Barrett

Cerddoriaeth: Alex Comana gyda thraciau parod gan VRi ac Alaw