Llwyfan y Maes

Nid rhaglen wedi ei chyfyngu i'r traddodiadol a cherdd dant yn unig gewch chi gan y cantorion lleol yma ond cymysgedd o'r ysgafn a'r safonol, y gwamal a'r swmpus, gwerin, cyfoes a sioeau cerdd. A hwyrach ychydig o "ddoncyneiddiaeth" – un o hen eiriau ardal Aberdâr am ffwlbri!


Criw sy'n cwrdd dan arweiniad Menna Thomas yn wythnosol yn Efail Isaf, dair milltir o Faes y Brifwyl, ydy Parti'r Efail.

Ers ei ffurfio ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant Pen-y-bont ar Ogwr yn 1995, bu'r parti'n cystadlu'n ddi-fwlch hyd gyfnod y clo ym mhob Gŵyl Cerdd Dant a Phrifwyl, gan ennill sawl tro, naill ai ar y cerdd dant neu'r gân werin.

Maen nhw wedi cynnal cyngherddau llawn neu ymuno mewn plygeiniau a diddanu mewn cynadleddau a phriodasau ar hyd y blynyddoedd, gan ymweld hefyd ag Iwerddon, Llydaw a de Ffrainc.

Er mai Efail Isaf ydy'r man cyfarfod, daw'r aelodau o ardal sy'n ymestyn o Drecelyn i Ben-y-bont ar Ogwr, o Abercynon i'r Barri, o Donyrefail i Riwbeina. Yr wythnos hon bydd nifer o'r aelodau hefyd yn rhan o weithgareddau eraill ar lwyfan y Brifwyl