Llwyfan y Maes

Mae Pedair yn dod â thalentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru at ei gilydd: Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym. Mae eu perfformiadau byw niferus wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd gyda'u harmonïau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiadol, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi


Enillodd eu halbwm cyntaf, 'Mae 'na Olau', wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd llynedd