Gwyddoniaeth a Thechnoleg

A all peiriant digidol ennill y Gadair am gerdd gaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Hannah Thomas, arbenigwr ar ddeallusrwydd artiffisal, a’r bardd-wyddonydd Gruffudd Antur sy'n mynd benben â’i gilydd o dan gadeiryddiaeth y comedïwr a’r mathemategydd Aled Richards, i weld beth, neu bwy, sydd fwyaf effeithiol wrth drin y gynghanedd a barddoniaeth