Tŷ Gwerin

Telynorion ifanc Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf sy'n perfformio rhai o drefniannau arbennig Meinir Heulyn gan gynnwys alawon Cymreig

Cydnabyddir Meinir Heulyn fel un o’n telynorion mwyaf amlwg. Hi oedd prif delynores Cerddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru am 30 mlynedd a bu’n gydlynydd Adran y Delyn, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am nifer o flynyddoedd. Roedd ei chartref ym Mhontypridd tan yn ddiweddar.

Mae’r disgyblion rhwng safon Gradd 2 a 5 a daw nifer fawr o ysgolion uwchradd Cymraeg Rhondda Cynon Taf gyda rhan helaeth ohonynt yn derbyn gwersi yn yr ysgol trwy'r Gwasanaeth Cerdd.

Maent am berfformio medli o wyth deuawd gan Meinir Heulyn a ddewiswyd o’i llyfrau ‘O’r Dechrau’ ac un o’r ‘Harp Duos’ Cyfrol 1. Byddant yn perfformio alawon Cymreig, megis ‘Twll Bach y Clo’, ‘Llwyn Onn’, ‘Cysga Di’ a ‘Morio’.

Trefnir gan Wasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf