Caffi Maes B

Mae’r band o Gaerdydd yn creu pop pwerus egnïol a'u melodïau wedi eu gwreiddio mewn dylanwadau fel Alvvays, The Beths, Teenage Fanclub a Squeeze


Ffurfiwyd Wigwam yn 2017, gan ryddhau eu halbwm cyntaf yn 2018.

Llynedd, gwelwyd cyfres o senglau gan y band yn ehangu ar eu sŵn nodweddiadol. Gyda'u caneuon newydd hwyliog a mwy o gerddoriaeth newydd ar y gweill, mae Wigwam yn edrych ymlaen i chwarae yn yr Eisteddfod eto eleni