Llwyfan y Maes

Pumawd sy'n cyfuno harmonïau dros drac sain hudolus o beiriannau llinynnau o’r 70au, synths o’r 80au a gitâr fuzz yw Ynys, prosiect cerddorol Dylan Hughes, gynt o Race Horses a Radio Luxembourg


Rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf yn 2022 ar Recordiau Libertino yn llawn caneuon cyfoethog o bop seicadelig bregus a melancolaidd.

Bu caneuon Ynys yn draciau'r wythnos ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Amazing Radio, ac mae'r band wedi chwarae sesiynau byw i raglen Marc Riley ar BBC 6 Music.

Roedd albwm cyntaf Ynys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023, a bydd eu hail albwm allan ym mis Gorffennaf 2024