Rydyn ni'n casglu a chadw eiddo coll yn y swyddfa wrth ymyl y Pafiliwn.

Llenwch y ffurflen isod, ac fe fyddwn ni’n rhoi gwybod i chi os fydd eich eiddo chi wedi dod i’r golwg.  

Ar ddiwedd yr Eisteddfod, byddwn yn cludo popeth i’r swyddfa yng Nghaerdydd.

Byddwn yn cymryd saib ar ddiwedd yr Eisteddfod, felly ni fyddwn ni’n prosesu eiddo coll tan ddechrau Medi.

Byddwch yn amyneddgar wrth i ni fynd drwy bopeth, ac fe fyddwn ni'n dychwelyd eiddo at bawb cyn gynted â phosibl.

Efallai y bydd cost postio er mwyn dychwelyd rhai eitemau, ac fe fyddwn yn trafod hyn gyda chi cyn anfon unrhyw beth atoch.

Byddwn yn edrych ar roi unrhyw eiddo sydd heb ei hawlio erbyn diwedd Medi i elusennau.

Wedi cael hyd i eiddo coll?

Dewch â’r eitem i’r ddesg ymholiadau yn y Neuadd Ymgynnull y drws nesaf i’r Pafiliwn.

Diolch yn fawr.