Oes gennych chi ychydig oriau i'w sbario'n ystod wythnos yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf? Os felly beth am wirfoddoli i fod yn rhan o'n tîm stiwardio ni eleni?
Wrth wirfoddoli yn yr Eisteddfod fe fyddwch chi'n un o'r criw fydd yn croesawu ymwelwyr i'r ŵyl.
Mae gennym ni nifer o leoliadau ar hyd a lled y Maes ac fe fyddwn angen criw o wirfoddolwyr cyfeillgar i weithio ym mhob un ohonyn nhw.
Byddwn yn cynnig hyfforddiant llawn i bawb, ac yn cynnig cefnogaeth i bob un o'r tîm yn ystod yr wythnos ei hun.
Eisiau sgwrs anffurfiol am y cyfrifoldebau a'r profiad? Cysylltwch ag un o'r criw sy'n trefnu'r gwaith stiwardio eleni. Anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.cymru am sgwrs.
Dysgu Cymraeg? Ymunwch gyda ni. Mae gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg!
Heb ddefnyddio Cymraeg ers peth amser? Dewch i wirfoddoli! Mae'n gyfle ardderchog i ail-afael yn eich Cymraeg!
Dewch i fod yn rhan o'n tîm cyfeillgar ym Mhontypridd!
Llenwch y ffurflen isod, ac fe fyddwn ni'n cysylltu â chi yng nghanol Gorffennaf.
Diolch am gefnogi!