Cyrraedd y Maes a pharcio

Teithio mewn car i’r Eisteddfod?  Mae Pontypridd yn brysur ar y gorau ac felly rydyn ni'n gofyn i bawb weithio gyda ni er mwyn gwneud yn siwr fod traffic yn rhedeg mor esmwyth â phosibl yn ystod yr wythnos.

Gwnewch yn siwr eich bod chi’n dilyn ein harwyddion ‘Eisteddfod’ melyn i gyrraedd y maes parcio. Mae’r arwyddion wedi’u gosod er mwyn hwyluso traffig, yn dilyn trafodaethau helaeth gyda’r cyngor lleol a’r gwasanaethau brys ac argyfwng, ac mae ein cynllun trafnidiaeth wedi’i greu i’n helpu ni i’ch helpu chi i gyrraedd yn rhwydd a diogel. Dilynwch yr arwyddion, nid eich peiriant llywio lloeren yn y car. 

Eleni, rydyn ni'n cynnig gwasanaeth parcio a theithio rhad am am ddim.  Bydd traffic o'r gogledd yn parcio yn Abercynon a thraffic o'r de yn parcio yn y Ddraenen-wen, a bydd bysiau gwennol rheolaidd yn eich cludo'n ddiogel i ganol tref Pontypridd.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am deithio i'r Eisteddfod.

Parcio

Os oes gennych chi fathodyn glas, dilynwch yr arwyddion i’r maes parcio ar gyfer ymwelwyr anabl.

Mae parcio cyfyngedig ar gyfer ymwelwyr anabl ar gael ym maes parcio Stryd y Santes Catrin yng nghanol Pontypridd (cod post CF37 2TB). Rheolir y maes parcio hwn gan yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos, er mwyn sicrhau mai dim ond ymwelwyr gyda bathodyn glas sy’n gallu parcio yno. Bydd staff wrth y giat yn y maes parcio drwy gydol yr wythnos i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Cyrraedd ar y trên

Erbyn hyn, mae gwasanaeth metro de ddwyrain Cymru’n weithredol yn yr ardal, felly mae llawer mwy o drenau’n rhedeg drwy’r Cymoedd. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn darparu trenau ychwanegol yn ystod yr wythnos i deithio o Gaerdydd drwy’r Cymoedd ac yn ôl tan i’r gweithgareddau orffen ar y Maes bob noson. 

Gyda’r orsaf drenau funudau’n unig o’r Maes ar Barc Ynysangharad, mae’n opsiwn ardderchog i unrhyw un sy’n aros y tu allan i’r ardal, ac yn gyfle gwych i adael y car gartref a mwynhau noson ar y Maes. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am deithio i'r Eisteddfod ar y trên.

Cymorth ychwanegol i ymwelwyr anabl sy'n teithio ar y trên

Mae Trafnidiaeth Cymru'n cynnig sawl math o gymorth i helpu ymwelwyr sydd am ddefnyddio'r trên o unrhyw ran o Gymru. Mae'r gwasanaeth Cymorth i Deithwyr ar gael i deithwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i archebu cymorth i deithio.

Sgwteri a chadeiriau olwyn i'w llogi

Rydym yn cydweithio gyda chwmni Byw Bywyd unwaith eto eleni, ac mae’u stondin wedi’i lleoli'n agos iawn at y brif fynedfa.  Mae'r Llecyn Llonydd a'r Hwb Hygyrchedd, lle bydd ein Swyddog Hygyrchedd, Oliver Griffith-Salter yn gweithio ger y Pentref Dysgu Cymraeg ar brif lwybr y Maes wrth gychwyn o'r brif fynedfa.

Er bod nifer cyfyngedig o sgwteri a chadeiriau olwyn ar gael i’w llogi ar y dydd, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu gyda’r cwmni ymlaen llaw am sgwrs, a gellir gwneud hyn drwy ffonio 01286 830 101. 

Os ydych yn bwriadu llogi sgwter am y tro cyntaf eleni, dylech gysylltu gyda’r cwmni am gyngor a sgwrs.  Os nad ydych yn brofiadol ar sgwter, dylech ddewis cyflymder araf wrth grwydro’r Maes. 

Byddwch yn ystyrlon o ymwelwyr eraill bob amser wrth ddefnyddio sgwter o amgylch y Maes.

Mae stondin Byw Bywyd ar agor o 09:00 - 18:00 bob dydd. Bydd modd cadw'r sgwter tan fod y Maes yn cau a bydd Byw Bywyd yn darparu gwybodaeth am le i adael y sgwter wrth adael y Maes i bawb sy'n llogi sgwter 

Mae modd i ymwelwyr wefru eu sgwter yn y stondin, hyd yn oed os nad ydynt wedi llogi’r sgwter gan gwmni Byw Bywyd. 

Tocynnau 

Gallwch brynu tocynnau yn y brif fynedfa neu ar-lein cyn cyrraedd. Cliciwch yma i brynu tocynnau ar-lein. 

Mae rhai ffenestri isel, sydd yn addas i bobl mewn cadeiriau olwyn. Yma hefyd mae sustem “loop” er mwyn cynnig cymorth i bobl sydd yn gwisgo teclyn clywed, a bydd hyn yn eich helpu wrth brynu tocynnau.

Mae tocynnau am ddim ar gael ar gyfer cynorthwy-wyr personol.  Os oes gennych chi gynorthwy-ydd neu os ydych chi’n dod gydag ymwelydd sydd angen cymorth, cofiwch ddod â thystiolaeth gyda chi i’r Maes er mwyn derbyn tocyn am ddim. Rydyn ni'n derbyn y canlynol:

  • Tudalen Flaen Lwfans Byw i’r Anabl / Taliad Annibyniaeth Bersonol (dim cyfradd benodol)
  • Tudalen Flaen llythyr Lwfans Gweini (dim cyfradd benodol)
  • Tystiolaeth o fod wedi cofrestru â nam difrifol ar y golwg (dall)
  • Cerdyn ID Cydnabyddedig ar gyfer Cŵn Cymorth
  • Cerdyn Mynediad CredAbility

Y Pafiliwn

Cynhelir nifer fawr o raglen gystadleuol a holl seremonïau’r Eisteddfod yn y Pafiliwn.  Mae stiwardiaid ar ddyletswydd wrth ymyl drysau’r Pafiliwn drwy’r amser, a gallwch ofyn am gymorth neu gyngor wrth gyrraedd yr adeilad.

Mae lle arbennig ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu sgwteri wedi’i neilltuo yn y Pafiliwn, ac mae seddau gerllaw ar gyfer cynorthwywyr personol. 

Rydym yn gofyn yn garedig i unrhyw un sy’n dymuno sicrhau lle yn yr ardal yma i gysylltu ymlaen llaw, a gellir gwneud hyn drwy e-bostio'r Swyddfa Docynnau yma neu drwy ffonio’r llinell docynnau ar 0845 4090 800. Nodwch fod hwn yn rif pris premiwm.

Hwb hygyrchedd

Mae'r Hwb Hygyrchedd wedi'i leoli’n agos at y Pentref Dysgu Cymraeg ar y prif lwybr ar ôl dod i mewn i’r Maes gyda’r Llecyn Llonydd.  Galwch mewn i gyfarfod ein Swyddog Hygyrchedd, Oliver Griffith-Salter os fyddwch chi angen cyngor neu gymorth.  Os hoffech chi gael sgwrs gyda Oliver cyn cyrraedd, gallwch ei ebostio yma.

Hwb gwybodaeth

Bydd gwybodaeth hefyd ar gael yn ein Hwb Gwybodaeth wrth ymyl y Pentref Dysgu Cymraeg.  Bydd y tîm gofal cwsmer ar gael i ateb cwestiynau am hygyrchedd, ac mae'n bosibl y byddan nhw'n cysylltu gyda'r Swyddog Hygyrchedd am ragor o wybodaeth.

Bydd ein stiwardiaid hefyd yn gallu eich helpu gydag unrhyw ymholiadau syml am hygyrchedd. Ond cofiwch mai'r Hwb Hygyrchedd yw'r lle gorau i fynd am gyngor neu gymorth.

Cyfieithydd BSL

Eleni, rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu BSL ar y Maes bob dydd o 11:00 - 14:00 ac o 15:00 - 18:00. Gallwch sgwrsio gyda'r cyfieithydd yn yr Hwb Hygyrchedd yn ystod y dydd. Os hoffech archebu cyfieithydd ar gyfer unrhyw sesiwn, rhowch wybod i ni ymlaen llaw drwy e-bost.

Cŵn cymorth 

Mae croeso mawr i gŵn cymorth ym mhob rhan o’r Maes gan gynnwys y Pafiliwn, ond gadewch i'r stiwardiaid wrth y drws wybod os ydych am ddod â'r ci i mewn i'r adeilad er mwyn iddyn nhw eich cynorthwyo i gael hyd i sedd addas gyda digon o le i'r ci wrth eich ymyl.

Rydyn ni wedi creu ardal fach i'ch ci gael seibiant a diod wrth ymyl yr Hwb Hygyrchedd.

Llecyn llonydd

Lleolir y Llecyn Llonydd wrth ymyl yr Hwb Hygyrchedd.  Dyma ddarpariaeth ar gyfer ymwelwyr ag anableddau sy'n dymuno llecyn tawel i ymlacio am ychydig o brysurdeb y Maes.  Bydd y Llecyn ar agor o 09:00 - 18:00. 

Goleuadau fflachiog (Strobe)

Efallai y bydd defnydd o oleuadau fflachiog mewn rhai sioeau yn ein hadeiladau neu ar ein llwyfannau yn ystod yr wythnos.

Ynys glyd

Am y tro cyntaf rydyn ni wedi creu ardal gynhwysol ar gyfer teuluoedd yn y Pentref Plant. Bwriad yr ynys glyd yw cynnig gofod tawel i blant gydag anghenion fel eu bod nhw’ teimlo’n rhan o’r Eisteddfod, a hynny heb ormod o sŵn a bwrlwm o’u cwmpas. Lleolir y Pentref Plant yn agos at y Hwb Hygyrchedd a’r Pentref Dysgu Cymraeg.

Toiledau 

Mae toiled ar gyfer ymwelwyr anabl ym mhob bloc o doiledau ar y Maes, ac mae ramp wedi’i osod yno. 

Mae toiledau ar gyfer ymwelwyr anabl wedi’u nodi’n glir ar y map.

Mae gennym doiled dibyniaeth uchel ar y Maes a gellir cael mynediad i hwn gydag allwedd RADAR. Byddwn yn cyhoeddi lle mae'r allweddi yma ar gael cyn yr Eisteddfod, neu gallwch ebostio Oliver ein Swyddog Hygyrchedd yma.

Mae toiledau anabl ar gael ar y Maes, ar y Maes Carafanau ac ym Maes B, ac mae cawodydd ar gael ar y Maes Carafanau ac ym Maes B.

Pwyntiau dŵr

Mae pwyntiau dŵr ar gael ar hyd a lled y Maes, ac wedi’u nodi’n glir ar fap y safle.  Mae’r rhain wedi’u gosod yn isel er mwyn hwyluso ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn a sgwteri. 

Ein bwriad yw annog ymwelwyr i ddod â photeli dŵr y gellir eu hail-ddefnyddio i’r Maes, a’u llenwi’n rheolaidd wrth grwydro.  Nid oes poteli dŵr plastig ar werth ar y Maes eleni.

Cymorth ychwanegol

Mae stiwardiaid ym mhob un o’n hadeiladau ac yn crwydro’r Maes yn ystod oriau agor.  Maent yn hawdd i’w hadnabod ac yn gwisgo siacedi gwelededd uchel. 

Os oes gennych gwestiwn neu os ydych eisiau cymorth neu gyngor, ewch atynt.  Bydd modd iddyn nhw eich helpu neu alw ar ein Swyddog Hygyrchedd i ddod i helpu neu gynnig cyngor. 

Cysylltu

Os ydych yn darganfod problem neu os ydych yn cael trafferthion, mae angen sôn wrthym ni ar y pryd.  Peidiwch ag anwybyddu problem a chysylltu ar ôl yr ŵyl. 

Dewch draw i'r Hwb Hygyrchedd am sgwrs gyda Oliver neu i swyddfa'r Eisteddfod y tu ôl i’r Pafiliwn i siarad gyda ni ar y pryd, fel ein bod ni'n gallu gwneud ein gorau i ddatrys y broblem yn syth. Gallwch ebostio Oliver yn syth drwy glicio yma.

Mae’r Eisteddfod yn ŵyl gynhwysol sy’n parchu a dathlu amrywiaeth yn ein holl weithgareddau. 

Rydym yn trin pawb gyda pharch a chwrteisi, ac yn awyddus i sicrhau nad yw unrhyw un yn wynebu rhagfarn ar sail anabledd, cefndir, cred, crefydd, hil, oedran, rhyw, rhywedd na rhywioldeb yn ystod eich ymweliad â’r ŵyl.

Y Maes ac ymwelwyr anabl

Mae Maes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf wedi'i leoli mewn parc cyhoeddus, a cheir llwybrau pwrpasol o amgylch y rhan fwyaf o'r Maes.  Lle nad oes llwybrau, rydyn ni wedi creu llwybrau hygyrch i hwyluso crwydro o le i le.

Ein bwriad yw sicrhau bod modd mynd i bob rhan o’r Maes mor esmwyth â phosibl.  Dylech gymryd gofal arbennig os ydych chi’n penderfynu gwyro oddi ar y llwybrau swyddogol, yn enwedig os ydych yn defnyddio cadair olwyn neu sgwter.

Rydym yn darparu ramp i bob adeilad os nad oes mynediad hygyrch naturiol.  Os ydych yn wynebu problem, cysylltwch gydag ein Swyddog Hygyrchedd yn syth drwy glicio yma i'w ebostio neu drwy fynd draw i'r Hwb Hygyrchedd neu swyddfa'r Eisteddfod y tu ôl i’r Pafiliwn ar unwaith. 

Os ydych yn ei chael yn anodd i grwydro’r Maes, cysylltwch gydag un o’r goruchwylwyr stiwardio, sy’n gwisgo siacedi gwelededd uchel coch neu oren. 

Bydd platfform gwylio o flaen lwyfan y Maes ac ym Maes B ar gyfer hyd at bedair cadair olwyn ar y tro. Bydd y stiward ar ddyletswydd yn gallu’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau.

Sesiynau yn y dref

Cynhelir rhai sesiwynau yn y dref. Mae'r Muni yn adeilad cwbl hygyrch gyda mynediad i gadeiriau olwyn ar draws yr adeilad, ac mae mynediad i gadeiriau olwyn, ynghyd â lifft hygyrch yn YMa hefyd.

Maes carafanau

Ceir rhagor o wybodaeth i ymwelwyr anabl sy’n aros ar ein maes carafanau yma.  Cofrestrwch ar y ffurflen ar waelod y dudalen honno i gofrestru am gefnogaeth a chymorth ychwanegol.