Bws

Bydd bws gwennol arbennig £2 y tocyn yn rhedeg nôl ac ymlaen rhwng Maes yr Eisteddfod a Phwllheli o 10:00–14:00 ar ddydd Sul 13eg Awst.

Mae trenau yn gadael gorsaf Pwllhelli am 09:34, 11:28, 13:40, 15:33 a 17:36 i gyfeiriad Machynlleth a’r Amwythig. Cynlluniwch eich taith ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Mae bws rhif 12 i gyfeiriad Caernarfon yn gadael Pwllheli am 12:00, 14:00 a 16:25.

Mae bws rhif 3 i gyfeiriad Porthmadog yn gadael Pwllheli am 08:35, 10:10, 12:20, 14:30 a 16:10.

O Borthmadog, mae bws T2 i gyfeiriad Bangor yn gadael am 11:05 a 16:05, neu i gyfeiriad Aberystwyth am 10:20, 14:20 a 19:15, ac mae bws 1S i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog yn gadael am 11:20, 14:20, 15:40, 16:40 a 18:40.

Cynlluniwch eich taith ar wefan Traveline Cymru neu edrychwch ar wefan Cyngor Gwynedd am amserlenni llawn gwasanaethau bws lleol.

Gyrru o’r Maes

Dilynwch y cyfarwyddiadau a’r arwyddion lleol wrth i chi adael. Bydd rhai ffyrdd lleol wedi’u cau dros gyfnod yr ŵyl, felly mae’n bwysig eich bod yn dilyn yr arwyddion i gyd.

Cofiwch ddilyn cyfarwyddiadau’r stiwardiaid yn y Maes Parcio. Maen nhw yno i helpu ac i’ch hwyluso wrth i chi adael y meysydd parcio.

Maes B

Bydd y maes pebyll yn cau am 13:00 ar ddydd Sul, 13eg o Awst. Bydd rhaid i bob cerbyd adael y maes parcio erbyn 15:00.