Annog siaradwyr Cymraeg i gael gyrfa ym maes gofal a dathlu'r gweithwyr sy'n darparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg

Bydd Dydd Iau'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddiwrnod arbennig i gynnal Diwrnod Gofal.

Mae'r Brifwyl a Gofalwn Cymru wedi creu partneriaeth i godi ymwybyddiaeth a gobeithio denu siaradwyr Cymraeg o bob lefel i ystyried gyrfa yn y maes gofal. 

Bydd Gofalwn Cymru yn noddi'r diwrnod drwy greu Diwrnod Gofal. Nod Gofalwn Cymru yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae sy’n cefnogi rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae’r ddau sector yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal lles, annibyniaeth pobl ac i blant, gan eu cefnogi i ddatblygu a thyfu.

Bydd aelodau staff Gofalwn Cymru ar y maes yn hyrwyddo ei gyrsiau hyfforddiant am ddim - Cyflwyniad i ofal plant a Chyflwyniad i ofal cymdeithasol - sy'n rhoi blas i oedolion yng Nghymru o sut beth yw gweithio ym maes gofal.

Bydd y dylanwadwr Heledd Roberts yn ymuno â'r tîm ar y maes i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol. Bydd y tîm hefyd yn siarad â'r cyhoedd i gael eu barn am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg o fewn gofal yng Nghymru. 

Keneuoe Morgan

Un sydd wedi gweithio yn y maes gofal ers dros chwarter canrif drwy gyfrwng y Gymraeg yw Kenuoue Morgan.

Daeth Keneuoe, sy'n Ddirprwy Reolwr yng Nghartref Preswyl Hafod Mawddach yn Bermo, i'r Bala o Lesotho yn 1997 a dechrau gweithio i Gyngor Gwynedd.

Manteisiodd ar y cyfle i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ddod yn rhugl yn yr iaith yn 2000. Erbyn hyn mae Keneuoe yn gweithio mewn cartref gofal, yn cefnogi pobl â dementia ac anghenion cymhleth .

Mae hybu hawliau pobl a chanolbwyntio ar y person a’r hyn sy’n bwysig iddo yn rhan bwysig o rôl Keneuoe. Trwy gyfathrebu â phreswylwyr yn eu dewis iaith, mae Keneuoe yn gallu meithrin perthynas â nhw a’u cefnogi, sy’n eu helpu i gynnal eu llesiant.

Keneuoe Morgan

Bydd y Diwrnod Gofal, ar Awst 10, yn cynnwys rhaglen lawn fydd yn cynnwys hyrwyddo cyrsiau hyfforddiant cyhoeddi enillydd gwobr Gofalu yn y Gymraeg 2023.

Am 12:00 ym Mhabell y Cymdeithasau 1, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyhoeddi enillydd y wobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2023. 

Dyma wobr flynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n cydnabod ac yn dathlu pobl sy'n darparu gofal a chymorth rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni, mae pum gweithiwr o bob cwr o Gymru wedi'u dewis i gyrraedd y rhestr fer, a dewiswyd yr enillydd trwy bleidlais gyhoeddus, sydd wedi derbyn bron i 2,300 o bleidleisiau.

Wedyn am 15:00 ym Mhabell Llywodraeth Cymru, bydd panel o arbenigwyr o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Mudiad Meithrin, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Phrifysgol Bangor yn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru i drafod pwysigrwydd y Gymraeg ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. 

Am fwy o wybodaeth chwiliwch am GofalwnCymru ar Trydar @GofalwnCymru, Facebook @GofalwnCymru neu Instagram @gofalwncymrucares 

Gofalwn Cymru