Tair merch mewn siacedi llachar oren yn gwirfoddoli gyda'r Eisteddfod

Rydyn ni'n chwilio am griw i helpu drwy wirfoddoli yn ystod Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, 2026.

Cynhelir y Cyhoeddi o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn yr Eisteddfod er mwyn croesawu'r Eisteddfod i'r ardal a chroesawu'r ardal i fod yn rhan o'r Eisteddfod.  Eleni cynhelir y Cyhoeddi yn Arberth ddydd Sadwrn 17 Mai 2025, gyda'r manylion llawn i ddilyn.

Mae'r digwyddiad yn cychwyn gyda gorymdaith ddinesig o amgylch y dref ac yna cynhelir seremoni dan ofal Gorsedd Cymru, pan fydd yr Archdderwydd yn derbyn y copi cyntaf o'r Rhestr Testunau gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, gyda holl fanylion cystadlaethau llwyfan a chyfansoddi Eisteddfod 2026.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae grwpiau cymunedol wedi bod yn awyddus iawn i ymuno yn yr orymdaith ddinesig gyda thros 650 o bobl yn rhan o'r orymdaith yn ardal Rhondda Cynon Taf a thros 400 wedi ymuno i gerdded yn Wrecsam y llynedd. Bydd yr orymdaith yn para tua hanner awr.

Byddwn angen o leiaf 20 o wirfoddolwyr i'n helpu ni yn ystod yr orymdaith a'r seremoni ei hun, felly beth am ofyn i deulu a ffrindiau ymuno wrth i chi gofrestru i fod yn rhan o'r tîm?

Dysgu Cymraeg neu heb ddefnyddio'r iaith ers tro?  Dewch i helpu a defnyddio'ch Cymraeg mewn digwyddiad cyfeillgar a chroesawgar.

Cofrestrwch yma ac fe fyddwn ni'n cysylltu cyn o hir gyda rhagor o wybodaeth.

Yn ogystal â'r Cyhoeddi, cynhelir Eisteddfod Llandudoch, ddydd Sadwrn 17 Mai, a byddwn wedi gorffen yn Arberth mewn da bryd i bawb fynd draw i gefnogi'r eisteddfod yn lleol.

Diolch.