Arwyddion Eisteddfod ar y Maes
Beth yw dalgylch yr Eisteddfod?

Mae Sir Benfro i gyd yn y dalgylch, yn ogystal â rhannau o dde Ceredigion a Sir Gâr. Defnyddiwch y map uchod i weld lle mae ffiniau'r dalgylch.

Sut alla i ymuno â'r tîm?

Eich eisteddfod chi yw hon, ac rydyn ni angen eich help chi i greu prosiect a gwyl lwyddiannus. Rydyn ni'n chwilio am bobl o bob cwr o'r dalgylch i ymuno gyda'r pwyllgorau lleol. Cliciwch yma i ymuno â'ch pwyllgor lleol.

Pryd fydd y rhaglen gystadlaethau ar gael?

Bydd y rhestr testunau'n cael ei gyhoeddi yn ystod Gwyl y Cyhoeddi a gynhelir yng ngwanwyn 2025. Bydd y Pwyllgor Gwaith a'r Orsedd yn cytuno ar ddyddiad i'w gyhoeddi'n fuan. Bydd y rhestr testunau ar gael i'w brynu ar-lein ac o siopau ar hyd a lled Cymru dros fisoedd yr haf, a bydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn yr hydref.

Bydd ein porth cystadlaethau'n cael ei lansio ym mis Ionawr 2026.

Ga i helpu gyda'r rhaglen artistig ar gyfer yr wythnos?

Wrth gwrs!  Mae angen tîm mawr o bobl creadigol a llawn syniadau i'n helpu ni i greu'r rhaglen artistig ar gyfer yr Eisteddfod ei hun.  

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal pob chwarter tan fod y rhaglen artistig wedi'i chwblhau ym mis Ionawr 2026.  Dewch â'ch syniadau a themau i'r cyfarfodydd!

Sut alla i helpu gyda'r gwaith codi arian a gweithgareddau lleol?

Rydyn ni'n chwilio am bobl ym mhob pentref a thref ar draws yr ardal i helpu gyda threfnu digwyddiadau cymunedol a chodi arian. Cliciwch yma i ymuno â'ch tîm lleol.

Byddwn yn creu timau lleol ar draws y dalgylch, a byddwn yn cynnig cymorth a chefnogaeth ar hyd y daith, gyda chyfarfodydd i rannu gwybodaeth a chynghori ein gilydd o dro i dro. Chi sy'n adnabod eich cymuned, ac rydyn ni angen eich help chi i gyrraedd pawb.

Mae tîm canolog yr Eisteddfod wastad ar gael i helpu gyda'r gwaith.

Pryd fyddwch chi'n harddu'r ardal?

Byddwn yn chwilio am bobl i arwain ymgyrch harddu yn ystod y cyfnod hyd at yr Eisteddfod (o fis Mai 2026 ymlaen) er mwyn dangos y croeso cynnes i'r Eisteddfod yn yr ardal.  Dewch i sicrhau fod Cymru gyfan yn gweld y croeso i'r Eisteddfod a'n hymwelwyr.

Byddwn hefyd yn cynnal ymgyrch harddu ar raddfa llawer llai ar gyfer y Cyhoeddi yn y gwanwyn.

Sut ga i wirfoddoli?

Rydyn ni'n chwilio am dîm o wirfoddolwyr drwy gydol y prosiect - o arwain y pwyllgor gwaith i gynnal a threfnu gweithgareddau lleol. Byddwn hefyd yn recriwtio cannoedd o wirfoddolwyr ar gyfer wythnos yr Eisteddfod i'n helpu ni ar hyd a lled y Maes. Bydd ein ffurflen wirfoddoli ar gael o fis Mawrth 2026 ymlaen.

Sut alla i gyflwyno gwobr?

Mae'r gwobrau ar gael i'w cyflwyno. Cliciwch yma i gyflwyno gwobr.

Sut ga i noddi'r Eisteddfod?

Mae nifer fawr o becynnau nawdd ar gael, gyda phrisiau'n rhedeg o £3,500 i £60,000. Cysylltwch â gwyb@eisteddfod.cymru am agor o wybodaeth. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda phob noddwr er mwyn datblygu pecynnau sy'n cynnig y gwerth gorau am arian a'r gwelededd gorau i chi a'ch busnes.

Pryd ga i archebu stondin?

Bydd ein stondinau ar gael i'w harchebu yng ngwanwyn 2026. Bydd prisiau'n cael eu cyhoeddi ar-lein ym mis Ionawr 2026 ac archebion yn agor wedyn.