Alun Ffred
8 Awst 2023

Alun Ffred yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn Mawr heddiw

Tasg y deg a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.  Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, (Williams Homes a Grŵp Cynefin).

Y beirniaid oedd Mared Lewis, Dewi Prysor a Sioned Wiliam, ac wrth draddodi’r feirniadaeth dywedodd Sioned Wiliam, “Anrhydedd mawr oedd cael trin a thrafod y gweithiau er cof am Daniel Owen, tad y nofel Gymraeg, a luniodd rhai o’r straeon mwyaf cofiadwy a bywiog yn ein hanes. 

“Deg nofel a ddaeth i law eleni a da oedd gweld wrth ddarllen fod yna ddigon i’w fwynhau ym mhob un ohonynt. Roedd gan bob nofelydd rhywbeth gwahanol iawn i’w gynnig ac fe gafodd Mared a Dewi a finne bleser mawr yn trafod eu gwaith...

“Ac yn olaf, Gwynt y Dwyrain gan Gerddi Gleision.  Nofel dditectif hynod o afalegar a darllenadwy yw hon sy’n llwyddo hefyd i greu awyrgylch ddwys heb fod yn or-ddibynnol ar ystradebau’r ffurf. 

"Mae’n trafod themau mawr, diriwiad y ffordd Gymreig o fyw, dieithrio ac unigedd cefn gwlad a’r galar hwnnw sy’n aml yn llechu o dan wyneb cymdeithas. 

"Mae’r ddeialog yn ffraeth ac yn gyhyrog ac yn llawn ymadroddion cofiadwy. Llwydda’r awdur i greu darlun cyfoethog o gymeriad neu olygfa mewn brawddegau cynnil. 

“Noir Cymraeg ar ei orau a mwyaf gwreiddiol yw hwn. Hoffa’r ditectif Idwal Davies ddyfynnu Parry-Williams ac mae’n medru enwi bob un o fynyddoedd Eryri ond mae e’n ddigon cartrefol hefyd yn yfed ‘te tramp’ ar ystâd tŷ cyngor. 

"Gwêl Idwal y drwg sydd ar waith yn y byd yn rhy glir i fod yn ddyn hapus ond mae ynddo gariad anferth at ei febyd ac mae’r dycnwch sy’n ei gynnal yn feunyddiol yn ei wthio’n gelfydd tuag at y diwedd dirdynnol. 

“Chwip o nofel sy’n diddanu tra’n gofyn cwestiynau pwysig am ein bywyd cyfoes yw hon. Roedd y tri ohonom yn hollol unfrydol fod Gwynt y Dwyrain gan Gerddi Gleision yn llwyr haeddu Gwobr Daniel Owen 2023.”

Cafodd Alun Ffred ei eni ym Mrynaman, ei fagu yn Llanuwchllyn ac mae’n byw bellach yn Nyffryn Nantlle. 

Cafodd yrfa amrywiol fel athro yn Sir y Fflint, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu ac Aelod dros Arfon a Gweinidog Treftadaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol. Bu’n gynghorydd ac Arweinydd ar Gyngor Gwynedd hefyd.

Ymddiddorodd ym myd y theatr o ddyddiau perfformio gyda’r Aelwyd yn Llanuwchllyn, yn Ysgol y Berwyn, y Bala a’r Brifysgol ym Mangor. 

Ef a’r diweddar Mei Jones oedd yn gyfrifol am greu’r gyfres radio a theledu, C’mon Midffild, ac ef oedd awdur y gyfrol boblogaidd, Rhagor o Hanesion C’mon Midffild

Bu’n cynhyrchu a chyfarwyddo cyfresi ar S4C fel Deryn, Pengelli a Talcen Caled a ffilmiau fel Cylch Gwaed a Plant y Tonnau

Bu’n brysur yn ei fro fel cadeirydd menter gymunedol Antur Nantlle ac fel cadeirydd Clwb Pêl-droed Nantlle Vale cyn camu’n ôl ac ar hyn o bryd mae’n cadeirio elusen Sistema Cymru - Codi’r To, sy’n defnyddio cerddoriaeth i godi hyder a sgiliau plant mewn dwy ardal ddifreintiedig.

Priododd ag Alwen o Gastell-nedd a ganwyd tri o blant iddynt, Deio, Ifan a Gwenllian ond bu farw Alwen yn 2005.

Ar ôl ymddeol, mae’n rhestru ei ddiddordebau fel diogi, darllen, beicio, chwaraeon a’r theatr – yn y drefn honno. 

Gwynt y Dwyrain yw ei nofel gyntaf. Bydd y nofel ar werth mewn siopau llyfrau ar draws y Maes a Chymru yn dilyn y seremoni heddiw.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan tan 12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.