Adwaith - Bato Mato (Libertino Records)
Wedi llwyddiant Adwaith yn cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2022 am ei hail albwm, Bato Mato, mae’r albwm hefyd ar restr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni. Gyda’r merched o Gaerfyrddin yn brysur yn teithio Cymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt roedd disgwyl eiddgar i glywed sut y byddent yn dilyn eu halbwm cyntaf, Melyn. Daeth 'Eto' yn un o anthemau fwyaf 2022, cyn i Bato Mato ein syfrdanu gyda chymysgedd iach o alawon bachog, curiadau trymion ac agwedd pync.