Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, un o wyliau diwylliannol mawr y byd, yn elusen sydd angen eich cymorth a’ch cefnogaeth chi. Bu’r Brifwyl yn rhan bwysig o fywydau cenedlaethau o Gymry ar hyd a lled y byd, ac mae arnom angen eich cefnogaeth i sicrhau datblygiad a ffynniant ein gŵyl genedlaethol arobryn.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd â’r rhagwelediad i’n helpu ni yn eu hewyllys. Mae’r cymorth hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i waith yr Eisteddfod, gan sicrhau ein dyfodol yn ariannol ac yn gelfyddydol, gan ein galluogi i ddatblygu’r ŵyl hollbwysig hon sydd wedi meithrin a chofleidio doniau ein cenedl am dros ganrif a hanner.
Ar ôl sicrhau eich bod wedi gofalu am eich teulu a darparu ar eu cyfer yn eich ewyllys, mae llawer o bobl yn dymuno gadael rhodd i elusennau a sefydliadau sy’n agos at eu calonnau. Mae’r rhoddion hael yma - beth bynnag eu maint – yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol, ac i’r miloedd o grwpiau ac unigolion sy’n cystadlu a pherfformio yn y Brifwyl bob blwyddyn.
Bydd eich rhodd yn ein galluogi i sicrhau dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, drwy ariannu ein gwaith ar hyd a lled Cymru, gan greu gwaddol cryf i’r iaith Gymraeg a’n diwylliant. Gadewch i’ch rhodd hael chi fod yn rhan o’n dyfodol ni a dyfodol ein cenedl.
Ysgrifennu eich ewyllys
Sicrhewch eich bod yn derbyn cyngor proffesiynol wrth ysgrifennu eich ewyllys, felly cofiwch siarad gyda’ch cyfreithiwr. Os ydych eisoes wedi paratoi ewyllys, ond yn awyddus i adael rhodd i’r Eisteddfod, gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio Codicil, sy’n eich galluogi i newid eich ewyllys cyfredol.
Does dim rhaid i chi adael i ni wybod eich bod yn bwriadu helpu’r Eisteddfod yn eich ewyllys, ond wrth siarad gyda ni, gallwn ddiolch i chi’n bersonol, a blaengynllunio ar gyfer y dyfodol, gan eich sicrhau y bydd yr Eisteddfod yn elwa o’ch haelioni am flynyddoedd i ddod.