Cefndir
Mae Y Lle Celf yn ddathliad cenedlaethol o’r celfyddydau gweledol a phensaernïaeth yng Nghymru, yn ffenest siop i’r byd celf ac yn atyniad pwysig ar Faes yr Eisteddfod. Hon yw oriel gelfyddydau gweledol yr Eisteddfod ac mae’n un o’r adeiladau mwyaf poblogaidd ar y Maes, gan ddenu hyd at 40,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos. Mae’r oriel yn gartref i waith rhai o artistiaid blaenaf Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at ailgydio yn y gwaith o gynllunio a threfnu’r Lle Celf ar gyfer y tair blynedd nesaf gan ddechrau yn Wrecsam 2025.
Telerau
Cytundeb: 3 blynedd rhan amser
Ffi am y gwaith: £12,000 y flwyddyn yn seiliedig ar batrwm gwaith oriau hyblyg fel a ganlyn:
- Ionawr – Chwefror [tua 2 ddiwrnod o waith ymgyfarwyddo a pharatoi]
- Mawrth – Gorff [tua 2 ddiwrnod yr wythnos]
- 01 – 14 Gorff [tua 3 diwrnod yr wythnos]
- 15 Gorff – 15 Awst [o ddeutu 24 diwrnod o waith i gynnwys rhai penwythnosau adeg yr ŵyl]
Lleoliad: Gweithio o gartref gyda chyfnod yn gweithio ar-safle’r Eisteddfod yn ystod ganol Gorffennaf / dechrau Awst wrth i ni ddechrau adeiladu a churadu Y Lle Celf, a’i redeg adeg yr Ŵyl (Sad 2-9 Awst 2025 – Wrecsam, a 1-8 Awst 2026 Sir Benfro).
- Bydd llety yn cael ei drefnu gan yr Eisteddfod ar gyfer y Curadur os nad yw’n byw’n lleol ar gyfer y cyfnod paratoi ar y Maes, wythnos yr Ŵyl ac ar gyfer y dadosod.
Cyfrifoldebau Curadur Celfyddydau Gweledol
Curadu a Rhedeg Arddangosfeydd Y Lle Celf
- Hwyluso gwaith Detholwyr yr Arddangosfa Agored a’r Arddangosfa Bensaernïaeth a chydweithio a gweithredu ar eu penderfyniadau. (O Eisteddfod Sir Benfro 2026 ymlaen, mi fydd y Curadur gyda rôl dethol hefyd, h.y. mi fydd dau detholwr gwadd a’r Curadur fydd y trydydd detholwr ar gyfer dethol yr Arddangosfa Agored);
- I weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr artistiaid a phenseiri llwyddiannus, y rhai caiff eu dethol, gan gasglu’r gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer yr Arddangosfa Agored a’r Arddangosfa Bensaernïaeth;
- Cydweithio gyda’r Cydlynydd i drefnu cytundebau ar gyfer yr artistiaid;
- Cydweithio gyda chlydwyr (couriers) Y Lle Celf (bydd cwmni cludo a phacio wedi ei benodi ar gyfer Eisteddfod Wrecsam), a chydlynu gyda’r artistiaid - cyfrifoldeb yr artistiaid yw trefnu bod y gweithiau celf yn cyrraedd Y Lle Celf.
- Cynllunio, paratoi a gosod Arddangosfeydd Y Lle Celf mewn cydweithrediad gyda’r tîm Technegol ac Artistig, yn cynnwys cytuno amserlen gyda’r tîm Technegol er mwyn sicrhau o leiaf 8 diwrnod llawn ar gyfer gosod gwaith cyn yr Agoriad;
- Cynghori a chynorthwyo ar gynllun yr Arddangosfa, ymweld â Storfa'r Eisteddfod yn Llanybydder i weld y deunydd sydd ar gael, dewis ac archebu offer clyweled, deunyddiau ar gyfer arddangos gwaith ac ati. Cysylltu gyda staff technegol perthnasol yr Eisteddfod gan oruchwylio'r gweithlu proffesiynol a chysylltu ag artistiaid, a bwydo i'r adolygiad ar ôl yr Eisteddfod;
- Datblygu hygyrchedd, amrywiaeth a chynwysoldeb Arddangosfa Y Lle Celf i gynnwys ystyriaethau amgylcheddol (yn cynnwys labeli, defnydd o codau QR, arwyddion vinyl ag ati);
- Cydweithio gyda’r Cydlynydd ar drefniadau’r Agoriad (y Cydlynydd i gydweithio gyda’r Rheolwr Cystadlaethau i drefnu’r Seremoni ar Lwyfan y Pafiliwn, a chydlynu’r artistiaid buddugol i siarad gyda’r wasg);
- Bod wrth law dros gyfnod yr Ŵyl i ddatrys unrhyw broblemau;
- Bod ar gael ar gyfer datgymalu'r arddangosfa a dychwelyd y gwaith celf ar ddiwedd yr Ŵyl am ryw 4 diwrnod - i glirio, rhoi trefn, storio a phacio’r gwaith celf ayb (bydd y Cydlynydd hefyd ar gael am ddiwrnod i gynorthwyo a rhoi trefn ayyb).
Ymgysylltu Proffesiynol
- Creu a meithrin cysylltiadau ar ran yr Eisteddfod ym maes y Celfyddydau Gweledol yng Nghymru a thu hwnt;
- Datblygu’r bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod â phartneriaid, megis Comisiwn Dylunio Cymru a Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, yn ogystal â galerïau Cymru a thu hwnt, a chanfod partneriaid o’r newydd o flwyddyn i flwyddyn;
- Cynorthwyo’r Cydlynydd a’r Rheolwr Cystadlaethau a’r Rheolwr Hyrwyddo a Marchnata i hyrwyddo’r cyfleoedd/gwobrau, yn cynnwys gyda’r colegau celf ond hefyd gwefannau cystadlaethau celf.
Rhaglen Artistig Y Lle Celf
- Cydweithio’n agos gyda’r Cydlynydd a fydd yn ymgysylltu gyda’r pwyllgor lleol a chanolog yn achlysurol i roi arweiniad a thrafod syniadau;
- Cydweithio’n agos gyda’r Cydlynydd a thîm artistig yr Eisteddfod ar gyfer datblygu’r Rhaglen Gelfyddydau Gweledol ar gyfer Y Lle Celf, i gynnwys digwyddiadau megis gweithdai, sgyrsiau a digwyddiadau aml-gyfrwng yn Y Lle Celf, a chelf ar hyd y Maes. (Y Cydlynydd fydd yn gyfrifol am drefnu’r Rhaglen).
Hyrwyddo a Marchnata
- Cydweithio’n agos gyda Rheolwr Hyrwyddo a Marchnata’r Eisteddfod. Bydd amserlen o ddyddiadau pwysig yn cael ei gytuno rhwng y Curadur a’r Rheolwr Marchnata er mwyn paratoi cynnwys penodol ar yr amser cywir wrth i’r Eisteddfod nesáu, yn cynnwys hyrwyddo’r Agoriad;
- Cydweithio’n agos gyda’r Cydlynydd a chyda Golygydd proffesiynol i baratoi deunydd Celfyddydau Gweledol i’w gyhoeddi e.e. ar gyfer datganiad i’r wasg, catalog ayyb. (Y Cydlynydd fydd yn gyfrifol am drefnu’r gwaith o gyfieithu, dylunio a phrintio’r catalog);
- Cydweithio gyda’r Cydlynydd i drefnu dogfennu’r Lle Celf (e.e. ffilmiau a ffotograffau).
Nawdd a Chyllideb
- Adnabod a pharatoi ceisiadau grantiau - a chytuno ar dargedau gyda chymorth y tîm artistig;
- Cydweithio’n agos gyda’r Cydlynydd a’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau / Cyfarwyddwr Artistig ar osod a rheoli’r gyllideb.
Sgiliau Personol
- Defnydd o’r Iaith Gymraeg: petai’n rhugl, dealltwriaeth sylfaenol, neu/a ymrwymiad i ddysgu’r iaith
- Profiad o weithio ym maes y Celfyddydau Gweledol;
- Profiad o guradu gwaith celf weledol mewn orielau proffesiynol, h.y. o gynllunio, paratoi a gosod Arddangosfeydd Celf Weledol;
- Sgiliau cyfathrebu da ac felly'r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar gyfer cyflawni’r gwaith;
- Y gallu i weithio ar liwt eich hun yn ogystal â fel rhan o dîm;
- Y gallu i weithio’n hwylus a threfnus gydag ystod eang o bobl gan gynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid;
- Gallu cyfrifiadurol perthnasol;
- Sgiliau trefnu a chydweithio da;
- Ymagwedd hyblyg tuag at waith a’r gallu i addasu i lwyth gwaith newidiol;
- Hyblyg ac yn medru ymateb i gyfleoedd a datrys problemau, gan ddelio’n effeithiol gyda phartneriaid ac artistiaid amrywiol.
Bydd yr Eisteddfod yn cynorthwyo’r Curadur drwy:
- Cynnal cyfarfod cychwynnol er mwyn sefydlu perthynas agos gydag aelodau o staff yr Eisteddfod – hwyluso’r gwaith a thrafod cyfrifoldebau fel rhan o dîm; rhannu amserlen ehangach wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod, e.e llinell amser rhaglen waith – dethol enillwyr y medalau aur, paratoi gwybodaeth ar gyfer y Rhaglen, rhoi gwybodaeth ar-lein ar gyfer cytundebau; cytuno ar gynllun y Lle Celf, pacio a chlirio Y Lle Celf;
- Rhannu ffolderi/ darparu cyfrinair ar gyfer googledrive/ one drive – er mwyn cael mynediad i ddogfennau perthnasol yr Eisteddfod;
- Yn ystod yr wythnos o osod Y Lle Celf, ac yn ystod yr Ŵyl ei hun, bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu mewn pabell fwyd i staff;
- Bydd wi-fi ar y Maes ar gyfer staff, a bydd Rheolwr IT yn gosod ffeil ‘remote desktop’ ar liniadur y Curadur.
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â Mererid Velios ar: yllecelf@eisteddfod.cymru
Fel arall, gofynnwn i chi ddarparu CV cyfredol ynghyd â llythyr yn nodi pam fod gennych ddiddordeb yn y rôl hwn, a beth sy’n eich cyffroi amdano – drwy e-bost at: elen@eisteddfod.cymru
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024, 17:00.
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Iau 9, Dydd Gwener 10 Ionawr 2025, dros Zoom