Delyth Badder
Delyth Badder, Pontypridd, yw’r patholegydd pediatrig cyntaf i fedru’r Gymraeg. Diolch i’w phendantrwydd a’i phenderfyniad i frwydro dros y gwasanaeth yng Nghymru, mae’r arbenigedd wedi goroesi, gan arbed pryder a loes ychwanegol i filoedd o deuluoedd. Mae Delyth hefyd yn gweithio fel Archwilydd Meddygol, gan alluogi teuluoedd sy’n galaru i leisio pryderon neu gwestiynau i arbenigwr yn eu dewis iaith. Yn ogystal, penderfynodd droi diddordeb oes mewn llên gwerin yn yrfa, ac mae’n Gymrawd Anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru, sy’n gyfle iddi osod ein hanes a’n traddodiadau ar lwyfan cenedlaethol a byd-eang.

Carol Bell
Cafodd Carol Bell, Llundain, ei magu yn Felindre. Mae’n arbenigo ym maes ynni, byd arian a busnes a gweithgarwch elusennol, a bu’n gysylltiedig â nifer fawr o sefydliadau cydwladol. Ond mae’n arbennig o falch o gael gwasanaethu sefydliadau ac elusennau yng Nghymru, gan gynnwys gweithredu fel Is-lywydd Amgueddfa Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Canolfan y Mileniwm a hi oedd y ferch gyntaf i wasanaethu ar fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae’n llais cyfarwydd ar y radio a’r teledu ac mae ei hymwneud â’r Gymraeg yn ymestyn at fathu geiriau a dderbyniwyd yn gyffredinol erbyn hyn, e.e. gwyrddgalchu (am greenwashing). 

Jamie Bevan
Mae Jamie Bevan, Merthyr Tudful wedi bod yn gonglfaen y gymuned Gymraeg yn ei ardal ers dros 20 mlynedd, ac erbyn hyn mae’n rhedeg caffi Cymraeg Soar, sy’n rhan o’r ganolfan Gymraeg bwysig yn y dref. Yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith, mae hefyd yn gerddor, a bu’n rhan allweddol o’r gwaith i greu Gŵyl Bedroc, ynghyd â threfnu nosweithiau cymdeithasol o bob math yn yr ardal. Mae Jamie wedi dylanwadu’n gryf ar bobl ifanc lleol i ymfalchïo yn ein hiaith a chymryd pob cyfle i’w defnyddio’n ddyddiol. Pleser yw ei anrhydeddu eleni.

Dafydd Trystan Davies
Yn wreiddiol o Aberdâr, mae Dafydd Trystan Davies, Caerdydd, yn adnabyddus fel academydd, gwleidydd, hyrwyddwr addysg ac amgylcheddwr, a gyfrannodd yn helaeth i Gymru, ei thraddodiadau, ei thirwedd, ei phobl a’i hiaith. Mae’n Gofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac wedi ymwneud â’r Coleg o’r cychwyn. Mae'n aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru. Fel amgylcheddwr, mae’n gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol ac ar flaen y gad yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio wrth deithio bob dydd. Bu’n allweddol yn natblygiad Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd, ac mae wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr amryw o fentrau cymdeithasol gan gynnwys Gweithdai Beiciau Caerdydd a TooGoodToWaste.

Geraint Davies
Mae Geraint Davies, Treherbert, wedi gweithio’n ddiflino am dros hanner canrif ar ran cymunedau’r Rhondda. Fel fferyllydd bu’n gwasanaethu cymunedau Treherbert, Treorci a Thynewydd, bu’n gynghorydd lleol dros Dreherbert am dros 40 o flynyddoedd ac yn 1999 etholwyd ef yn aelod cyntaf Cwm Rhondda yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Bu’n ymgyrchydd brwd a gweithgar dros faterion lleol, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyngor a thros addysg Gymraeg yn y cwm. Bu hefyd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu banc bwyd a chaffis i gefnogi teuluoedd difreintiedig yn yr ardal.

Michelle Davies
Brodor o bentref Beulah yw Michelle Davies, Llangamarch, yn ferch ei milltir sgwâr, a’i gwreiddiau’n ddwfn yn yr ardal, ac yn un sydd wedi gwneud llawer i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu unwaith eto mewn ardal lle bu dirywiad yn yr iaith dros y blynyddoedd. Drwy ei gwaith, mae’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt wedi ffynnu. Ac mae ei gwaith cymunedol gyda chyrff megis Eisteddfod Llanwrtyd, y cylch meithrin lleol, Eisteddfod yr Urdd a’r Ffermwyr Ifanc wedi golygu bod llawer mwy o gyfleoedd i blant ac ieuenctid yr ardal ddefnyddio’u Cymraeg wrth gymdeithasu.

Joseff Gnagbo
Ceisiwr lloches o’r Traeth Aur yw Joseff Gnagbo, Caerdydd, a symudodd i Gymru rai blynyddoedd yn ôl. Ymsefydlodd yn y brifddinas gan ddysgu Cymraeg yn hyderus. Oddi ar hynny bu’n diwtor Cymraeg ail-iaith hynod effeithiol. Ers yr hydref Joseff yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae wedi ymddangos yn gyson ar y cyfryngau yn rhannu ei brofiadau fel ceisiwr lloches a pherson a ddysgodd y Gymraeg ar ôl symud i Gymru. Rydym yn falch i’w groesawu i Orsedd Cymru.

Margot Ann Phillips Griffith
O Bont-iets yn wreiddiol, symudodd Margot Ann Phillips Griffith, Wellington, i Seland Newydd bron i hanner canrif yn ôl. Mae’n dychwelyd i’w chynefin yn gyson ac yn mynychu’r Eisteddfod yn rheolaidd. Bu’n llywydd Cymdeithas Gymreig Wellington amryw o weithiau, a’i gweledigaeth yn arwain at gynnal cyfarfodydd gloywi iaith, ynghyd â chystadleuaeth ysgrifennu barddoniaeth a stori fer ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae’n trefnu derbyniad i dîm rygbi Cymru pan fyddant yn ymweld â Wellington, a hi hefyd sy’n trefnu codi’r Ddraig Goch ar adeilad senedd Seland Newydd ar 1 Mawrth bob blwyddyn. Margot oedd Llywydd y Welsh Gymanfa Ganu Association of New Zealand rhwng 1996 a 2023.

Gill Griffiths
Mae Gill Griffiths, Pentyrch, yn gymwynaswraig wrth reddf ac wedi cyfrannu’n helaeth yn ei chymuned a’r tu hwnt dros iaith a diwylliant Cymru. Mae hi’n aelod gweithgar o Ferched y Wawr ers blynyddoedd lawer. Yn ystod ei chyfnod fel llywydd cenedlaethol y mudiad, bu’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwaith Cymorth Cristnogol drwy annog yr aelodau i gasglu bagiau a’u gwerthu er budd yr elusen. Bu’n weithgar ym maes dysgu Cymraeg, yn diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Swyddog y Dysgwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu Gill yn llywydd anrhydeddus yn Eisteddfod Caerdydd 2018.

Rosa Hunt
Yn wreiddiol o Malta, symudodd teulu Rosa Hunt, Pentre’r Eglwys, i Brydain pan oedd hi’n 15 mlwydd oed, oherwydd y sefyllfa bryderus yn ei gwlad. Erbyn heddiw, mae’n siaradwr Cymraeg hyderus, yn Gyd-bennaeth Coleg y Bedyddwyr Caerdydd, ac yn weinidog rhan-amser yn Eglwys y Tabernacl, Caerdydd. Mae’i chyfraniad i’w chymuned yn ardal Ton-teg yn aruthrol, fel rhan o’r tîm a sefydlodd y banc bwyd lleol, Caffi Shalom, sy’n croesawu’r ifanc a’r bregus, trefnydd clwb gwyliau i blant am flynyddoedd lawer, ac aelod o grŵp a gydweithiodd â’r cyngor lleol i groesawu sawl teulu o ffoaduriaid i’r ardal.

Awen Iorwerth
Yn enedigol o’r Rhondda, mae Awen Iorwerth wedi gwneud llawer i hyrwyddo addysg feddygol trwy’r Gymraeg. Yn sgil ei brwdfrydedd yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith o fewn meddygaeth, penodwyd Awen yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu addysg feddygol gyfrwng-Cymraeg, a hi a draddododd y ddarlith Gymraeg gyntaf erioed i fyfyrwyr y Coleg Meddygaeth. Erbyn hyn mae pob un o fyfyrwyr Coleg Meddygaeth Caerdydd, waeth beth fo’u cefndir ieithyddol, yn derbyn sesiynau sgiliau cyfathrebu yn Gymraeg. Mae’n fraint i’r Orsedd gydnabod pwysigrwydd ei gwaith yn y maes hwn. 

Gethin Lloyd James
Un o Lanarthne yw Gethin Lloyd James, ac mae’n ddyn ei filltir sgwâr. Ef a sefydlodd gwmni pensaernïaeth IAGO Cymru Cyf, sy’n darparu cynlluniau i bobl leol trwy gyfrwng y Gymraeg, gan hybu’r iaith mewn modd ymarferol. Roedd Gethin yn allweddol i’r fenter o geisio am arian i godi neuadd bentref yn Llanarthne, a agorodd yn 2008, wrth i ysgol y pentref gau. Aeth y neuadd o nerth i nerth, yn ganolfan a chalon i’r pentref a’r gymuned ehangach, gan ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau. Gethin fu’r trysorydd o’r dechrau, a theg dweud bod ei gyfraniad i ddiwylliant bro Llanarthne yn llwyr haeddu anrhydedd yr Orsedd. 

Theresa Mgadzah Jones
Daeth Theresa Mgadzah Jones i Brydain o Simbabwe yn blentyn 12 oed, cyn symud i Gymru yn ddiweddarach ac ymgartrefu yng Nghaerdydd. A hithau’n ymfudwraig ei hunan, mae Theresa’n achub ar bob cyfle posibl i hyrwyddo’r Gymraeg ymysg ymfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Bu’n gweithio i’r Groes Goch yng Nghasnewydd am flynyddoedd, yn cydlynu rhaglen ar gyfer merched, gan chwilio am ffyrdd i chwalu’r syniad na allai’r merched hyn ymdopi â dysgu Cymraeg ar ben y Saesneg. Cydweithiodd ag amryw o gyrff, gan gynnwys Dysgu Cymraeg Gwent a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn cyrraedd y nod o gyflwyno’r Gymraeg i’r cymunedau newydd hyn o fewn ein cymdeithas.

David Lloyd-Jones
Mae’r Arglwydd David Lloyd-Jones CB, Pontypridd, yn Farnwr y Goruchaf Lys ac ysgolhaig yn y gyfraith. Bu’n aelod o Lys Lloegr a Chymru ac yn Gadeirydd Comisiwn y Gyfraith. Ef oedd y cyntaf i draddodi dyfarniad yn y Gymraeg yn y Goruchaf Lys. Bu’n dysgu a darlithio ym Mhrifysgol Caergrawnt tra roedd yn aelod o’r Bar cyn mynd yn Farnwr. Tra roedd yn Llywydd Comisiwn y Gyfraith, arweiniodd waith ymchwil a diwygio arloesol a sicrhaodd ehangu rhychwant statudol y Comisiwn i gynnwys gweithio ar brosiectau i Lywodraeth Cymru. Mae’n Llywydd Cyngor Cyfraith Cymru sy’n dwyn ynghyd ymarferwyr, barnwyr ac ysgolheigion y gyfraith i ystyried a gweithredu materion sy’n cynnwys addysg gyfreithiol a datblygiad y proffesiynau cyfreithiol yng Nghymru.

Gerallt Pennant
Er mai Eifionydd yw cynefin Gerallt Pennant, bu’n athro yn Ysgol Gymraeg Ynys-wen, Cwm Rhondda am gyfnod, cyn symud i fyd y cyfryngau. Mae Gerallt yn wyneb cyfarwydd ar rai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, fel gohebydd y gogledd ar ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da’, ac mae ‘Galwad Cynnar’ fytholwyrdd Radio Cymru wedi ysbrydoli cenedlaethau o wrandawyr. Mae gallu Gerallt i ymdrin ag amrywiaeth o feysydd, ac ymateb yn gynnes i bobl o bob math ac o bob cwr o’r wlad, yn peri ei fod yn un o’r cyflwynwyr gorau yn y Gymraeg, a braint yw ei anrhydeddu eleni.

Ian Wyn Rees
Mae Ian Wyn Rees, Porth Tywyn, yn arbenigwr gastroberfeddol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, ac yn brif feddyg ar yr iau yn yr ardal leol. Mae’n un o ymddiriedolwyr gweithredol elusen Angor, sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog i gleifion canser neu afiechyd sy’n cyfyngu bywyd yn ardal Sir Gâr. Mae’n weithgar yn ei gymuned, wedi gwasanaethu fel llywodraethwr ysgolion ac yn Gadeirydd Menter Cwm Gwendraeth Elli. Mae Ian hefyd yn ganwr brwdfrydig, wedi bod yn gadeirydd ac ysgrifennydd Côr Porth Tywyn. Mae wedi canu gyda nifer o gorau cymysg, gan gynnwys Côr Llanddarog. Mae’n gefnogwr brwd i’r Plygain ac yn canu’n gyson yng nghymanfaoedd canu yr ardal.

Rhuanedd Richards
Mae gwreiddiau Rhuanedd Richards, Pontypridd, yn ddwfn yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghwm Cynon, gyda’i rhieni’n mynd ati i ddysgu’r iaith fel oedolion. Mae wedi byw a magu’i theulu ym Mhontypridd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn dilyn cyfnod fel newyddiadurwr, ac yna’n gweithio ym myd gwleidyddiaeth, erbyn hyn mae’n gyfarwyddwr BBC Cymru. Er ei phrysurdeb, mae’n parhau i fod yn weithgar yn ei chymuned ym Mhontypridd ac yn hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ardal. Adlewyrchir ei hymrwymiad mawr i’n hiaith ac i Gymru yn ei bywyd bob dydd yn Rhondda Cynon Taf lawn gymaint ag ar lefel genedlaethol lle mae’n arweinydd uchel ei pharch.

David Roberts
Mae David Roberts, Caerffili, wedi gweithio ym maes addysg Gymraeg yn y Rhondda a Chwm Taf am bron i 30 mlynedd, gan ddysgu Cymraeg i filoedd o blant, a nifer helaeth ohonynt yn dod o aelwydydd di-Gymraeg. Bu’n arwain Clwb yr Urdd yn Ysgol Llwyncelyn, fel bod plant yn cael cyfle i siarad Cymraeg yn gymdeithasol, a chychwynnodd glybiau pêl-droed Cymraeg, ac annog y plant hefyd i gystadlu yn yr Urdd. Yn ddirprwy bennaeth Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, mae’n ysgogi plant a staff ffrwd Saesneg yr ysgol i ddefnyddio’r Gymraeg. Bu David yn arweinydd ar raglen ‘Ffit Cymru’ yn 2019, gan ysgogi miloedd o bobl i fyw bywyd iachach.

Elfed Roberts
Ymddeolodd Elfed Roberts, Caerdydd, o’i swydd fel Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018, yn dilyn chwarter canrif wrth y llyw. Datblygodd ac esblygodd yr Eisteddfod dan ei ofal, ac erbyn heddiw mae’n ŵyl fywiog a lliwgar sy’n denu ymwelwyr o bob oed a chefndir, ond heb golli golwg ar ei gwreiddiau dwfn yn nhraddodiadau a diwylliant Cymru. Yn ystod ei gyfnod, teithiodd yr Eisteddfod i bob rhan o’r wlad, ac mae’r gwaddol ieithyddol a diwylliannol a adawyd ar ei hôl i’w weld yn glir ym mhob cornel o Gymru.

Elinor Snowsill
Tan ei hymddeoliad diweddar o rygbi proffesiynol, Elinor Snowsill, Pont-y-clun, oedd un o chwaraewyr amlycaf tîm merched Cymru. Bu hefyd yn llafar ei barn o blaid hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod yn y gêm ac yn flaenllaw yn cyflwyno’r gêm yn y Gymraeg - ar y cae ac ar y cyfryngau. Yn ei gwaith bob dydd, bu’n rhan o dîm School of Hard Knocks Cymru, elusen sy’n helpu plant ac oedolion dan anfantais i lwyddo drwy gyfrwng rygbi. Ers ei hymddeoliad, penodwyd Elinor yn Arweinydd Datblygu Chwaraewyr yng Nghanolfan Datblygu Chwaraewyr Prifysgol Met Caerdydd. Bydd ei mam, Nerys Howell, hefyd yn cael ei hanrhydeddu gan yr Orsedd eleni.

Derec Stockley
Mae Derec Stockley, Cefneithin, yn enedigol o Ffosygerddinen (Nelson), a chafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd. Bu’n ddarlithydd yn Llydaw, ac yn Bennaeth Adran Ffrangeg Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn dechrau ar yrfa nodedig yn CBAC lle daeth yn Gyfarwyddwr Arholiadau ac Asesu yn 2001. Ymhlith ei gyfrifoldebau lu oedd sicrhau bod deunyddiau dysgu (digidol a phrint) yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Bu Derec yn weithgar hefyd gydag UCAC a Chymdeithas Edward Llwyd, ac mae’n llais cyfarwydd ar y cyfryngau, yn trafod newyddion a materion yn ymwneud â Llydaw a Ffrainc sydd o ddiddordeb i ni yng Nghymru. 

Hazel Thomas
Mae Hazel Thomas, Cwm-du, Crucywel, wedi cyfrannu’n helaeth i gymunedau ei bro. Cafodd fagwraeth gerddorol iawn, a arweiniodd at gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn ifanc, ac aeth ymlaen i ymddangos fel unawdydd ar amrywiaeth o raglenni teledu a radio. Bu’n athrawes gerdd am 25 mlynedd a hefyd yn athrawes Cymraeg. Gwasanaethodd sawl gwaith ar bwyllgorau’r Eisteddfod Genedlaethol a bu’n gadeirydd Eisteddfod Cwm-du am dros chwarter canrif. Ymhlith ei chymwynasau eraill i’w bro, bu Hazel yn organyddes Eglwys Cwm-du ers tua 40 mlynedd. Braf yw ei hanrhydeddu eleni. 

John Thomas
Barnwr Cyflogaeth yw John Thomas, Abertawe, yn ôl ei broffesiwnPan ddaeth Deddf yr Iaith Gymraeg i rym yn 1993, bu’n flaengar wrth sicrhau bod y broses weinyddol yn ddichonadwy cyn y gellid cyflwyno cais gerbron y barnwr, trwy sicrhau bod digon o weision sifil yn medru’r Gymraeg. Y canlyniad oedd trefnu rhyddhau staff i gael gwersi Cymraeg yn y gweithle – syniad cwbl arloesol ar y pryd. John, ynghyd a thri gŵr lleol arall, a gafodd y weledigaeth a arweiniodd at sefydlu canolfan Gymraeg Tŷ Tawe yn ninas Abertawe, a John ei hun yn gyfrifol am godi llawer o’r cyllid er mwyn gwireddu hynny. Dyma ddyn a weithiodd yn ddygn o blaid y Gymraeg yn lleol. 

Meleri Tudur Thomas
Y Barnwr Meleri Tudur Thomas, Caernarfon, yw dirprwy lywydd Siambr Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr. Fe’i magwyd yng Ngholeg Bala-Bangor a chychwynnodd ei gyrfa fel twrnai ym Mhontypridd dan arweiniad y diweddar Arglwydd Gwilym Prys Davies a Mr Cyril Moseley. Mae’n farnwr Uwch Dribiwnlys ac yn ddirprwy farnwr Uchel Lys, yn eistedd yng Nghymru ac yn y Llysoedd Brenhinol yn Llundain, yn un o’r ychydig a all gyflwyno dyfarniadau yn y Gymraeg. Mae’n farnwr yn Nhribiwnlys Addysg a Phanel Dyfarnu Cymru. Mae ar fwrdd golygyddol y ‘beibl’ cyfreithiol ynglŷn â phlant, ‘Clarke Hall & Morrison on Children’ ac yn un o awduron y gyfrol ‘Making Decisions Judicially’.

Noel Thomas
Un o werinwyr Môn yw Noel Thomas, Gaerwen, gŵr a wasanaethodd ei gymuned yn gydwybodol ac yn anhunanol am flynyddoedd lawer fel is-bostfeistr a chynghorydd sir. Ond daeth tro ar fyd yn 2006: fe’i diswyddwyd gan y Swyddfa Bost a’i garcharu am ffug-gyfrifo. Nid tan Ebrill 2021 yr adferwyd ei enw da pan gafodd ei glirio o’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn y Goruchaf Lys. Fel un a ddioddefodd gamwri mawr dan law sefydliad cyhoeddus grymus, ond a ddaliodd i frwydro am gyfiawnder gan gadw ei hunan-barch a’i urddas drwy’r cyfan, mae’n gwbl briodol fod safiad Noel Thomas yn cael ei gydnabod gan ei genedl ei hun drwy Orsedd Cymru.

Mark Vaughan
Magwyd Mark Vaughan, Llanedi, Pontarddulais, ger y Coed Duon ar aelwyd ddi-Gymraeg. Pan oedd yn fyfyriwr yn Ysgol Feddygol Cymru, aeth ati i ddysgu Cymraeg, er mwyn cymdeithasu, er budd ei broffesiwn fel meddyg teulu yn Llanelli ac yn ddiweddarach er mwyn magu’i deulu ei hun. Ef oedd y Cymro cyntaf i dderbyn anrhydedd Cymrawd y Coleg Meddygol yn 1996, ac yn 2011 derbyniodd ganmoliaeth am ei gyfraniad rhagorol i feddygaeth deuluol. Ers saith mlynedd, mae’n gwirfoddoli yn Uganda gan ymweld ddwywaith y flwyddyn i gynnal clinigau mewn ardaloedd anghysbell lle nad oes gwasanaeth meddygol, ac mae’n cyflwyno’r neges ddyngarol i fudiadau, eglwysi, capeli ac ysgolion ar draws Sir Gâr a’r tu hwnt.

Megan Williams
Mae Megan Williams, talaith Efrog Newydd, UDA, yn brif olygydd ‘Ninnau’, papur bro Gogledd America sy’n ymddangos bob deufis. Hi hefyd sy’n bennaf gyfrifol am Gymdeithas Cymru-Gogledd America, ac yn trefnu Gŵyl Cymru Gogledd America bob blwyddyn. Mae wedi dysgu’r Gymraeg yn ardderchog, ac yn briod â Chymro Cymraeg o Wynedd. Yn ogystal, bu ei mam a’i thad hefyd yn weithgar ym mywyd ymarferol Cymry Gogledd America am flynyddoedd lawer. Mae bob amser yn barod ei chymwynas ac yn fodlon ymgymryd ag unrhyw dasg er mwyn hybu a helpu’r Cymry yng Ngogledd America, ac mae’n rhan annatod o’r cysylltiad pwysig sy’n parhau i fodoli rhwng y ddwy wlad.

Ynyr Williams
Ganwyd a magwyd Ynyr Williams yn Nhrawsfynydd, ond ymgartrefodd yng Nghaerdydd. Yn fardd, yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu, rhwng 2007 a 2015 bu’n gyfrifol am y gyfres boblogaidd ‘Pobol y Cwm’cyn cael ei benodi yn Olygydd Cynnwys Radio Cymru am chwe blynedd. Uchafbwynt ei yrfa, fodd bynnag oedd, rhwng 2010 a 2021, bod yn gyfrifol am ochr ddarlledu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r BBC (gan gynnwys y ddwy flynedd heriol o ‘eisteddfodau amgen’). Yn ystod y cyfnod hwnnw fe brofodd Ynyr ei hunan yn wir gyfaill i’r Eisteddfod ac i’r Orsedd. Braint yw ei urddo eleni.