Arholiadau'r Orsedd

Hoffech chi ymaelodi â Gorsedd y Beirdd a chael cymryd rhan yn ei gorymdeithiau a’i seremonïau lliwgar?

Mae modd i chi wneud hynny trwy sefyll Arholiadau’r Orsedd a gynhelir ar y Sadwrn olaf yn Ebrill bob blwyddyn mewn canolfannau hwylus yn ne a gogledd Cymru.

Ceir meysydd astudio mewn Barddoniaeth, Cerddoriaeth, Iaith, a Rhyddiaith, yn ogystal â meysydd arbennig i Delynorion, Datgeiniaid Cerdd Dant, ac Utganwyr.

Rhaid pasio dau arholiad yn eich maes dewisedig cyn y byddwch ar dir i’ch urddo i’r Wisg Werdd yng Nghylch yr Orsedd gan yr Archdderwydd – ond gallwch sefyll y ddau arholiad yr un diwrnod, os mynnwch. 

Gallwch lawrlwytho'r meysydd astudiaeth ar gyfer 2023-25 o waelod  y tudalen hwn. Mae enghreifftiau o bapurau arholiad diweddar ar gael o gysylltu â Threfnydd  yr Arholiadau (cyfeiriad isod).

Os llwyddwch yn yr arholiadau, cewch Dystysgrif Aelodaeth, ynghyd â’r fraint o berthyn i sefydliad unigryw sy’n rhan mor annatod o’r Eisteddfod Genedlaethol. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Threfnydd Arholiadau’r Orsedd: Dr W Gwyn Lewis (Gwyn o Arfon), Llys Cerdd, 80 Cae Gwyn, Caernarfon, Gwynedd   LL55 1LL neu anfonwch ebost at wgwyn.lewis@btinternet.com

MAES ASTUDIAETH 2023-2024-2025 Lawrlwytho