Mae Bar Syched rhwng Ty Gwerin a Chaffi Maes B eleni.
Dyma ychwanegiad hynod o boblogaidd ar y Maes dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae perchnogion y bar yn treulio misoedd cyn yr Eisteddfod yn ymweld â bragdai a gwneuthurwyr diodydd ar hyd a lled Cymru er mwyn sicrhau bod digonedd o ddewis i gynnyrch Cymreig ar gael ym Mar Syched.