Blynyddoedd cynnar yr Eisteddfod fodern

Cynhaliwyd honno yn Aberdar yn 1861, ac achosodd y gwynt ddifrod mawr i’r Pafiliwn, neu’r deyrnbabell fel y’i gelwid bryd hynny.

Yn ôl Baner ac Amserau Cymru, 28 Awst 1861, “…yn ddisymmwth, cododd yn wynt ystormus tua chanol dydd, dydd Sabbath, a chwythwyd y deyrnbabell i lawr yn chwilfriw.  Yr oedd y fath ddigwyddiad mor agos i ddydd yr Eisteddfod yn ffigon i wangaloni y galon ddewraf; ond yn lle pendroni uwchben y galanastra, penderfynodd y dewrddyn awenyddol, Alaw Goch, a’r pwyllgor, i fyned ynghyd â chyfaddasu y Marchnad-dŷ i gynnal yr Eisteddfod ynddi: a phan ystyriom yr amser bychan oedd ganddynt tuag at gyflawni y fath orchwyl aruthrol, y mae’n hynod ei fod gystal.”

Ac mae’n amlwg i’r Eisteddfod daro deuddeg gydag ymwelwyr, gan i ohebydd Baner ac Amserau Cymru sôn yn ei golofn ar 28 Awst, “Ni fum mewn Eisteddfod Genedlaethol erioed o’r blaen; ond hyderwy, y caf y pleser o fod mewn llawer un etto.  Da genyf fod Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr wedi syrthio i’r fath ddwylaw galluog.  Os na wneir rhywbeth yn effeithiol yn Aberdâr, nis gwneir ef yn unrhyw dref yng Nghymru yn bresennol.  Yr oed anffawd y tent yn ddigon i wangaloni y calonau dewr, ond meddianodd yr Aberdariaid eu hunain yn gampus yng ngwyneb y cyfan.”

Erbyn canol yr 1860au, a’r Eisteddfod wedi’i chynnal yn y gogledd a’r de bob yn ail am rai blynyddoedd, roedd y Brifwyl yn ffynnu, cymaint felly nes i bapur newydd The Times anfon un o’i ‘special correspondents’ i lawr o Lunain bell i Gaerfyrddin i adrodd yr hanes.  Mewn llythyr i’r Faner ym mis Medi 1867, yn dilyn Eisteddfod Caerfyreddin – lle cyflwynwyd y Goron am y tro cyntaf – meddai ‘Y Gohebydd’, John  Griffith, “Y Mae Eisteddfod Fawr 1867 yng Nghaerfyrddin wedi bod, ar y cyfan, yn success, ac oni bai i’r tywydd droi allan yn anffafriol – yn neillduol y diwrnod olaf – y gwlaw mawr yn tywallt yn hidl drwy do’r babell – oni bai hyn, buasai Eisteddfod Caerfyrddin, y mae’n ddiamheuol yn troi allan, nid yn unig yn success ond yn grand success…  Y mae’r Eisteddfod… wedi dyfod rhwng pobpeth – a defnyddio term Americanaidd – wedi dyfod yn “big thing” – yn mighty big thing…”

Efallai bod yr Eisteddfod yn ‘mighty big thing’ y flwyddyn honno yng Nghaerfyrddin, ond yn rhyfedd, yn dilyn y llwyddiant hwn, y gogledd fu’n gartref i’r Eisteddfod am nifer o flynyddoedd, tan y’i chynhaliwyd ym Merthyr Tudful yn 1881, bron i bymtheng mlynedd yn ddiweddarach.

Yn 1876, cynhaliwyd yr Eisteddfod yn nhref Wrecsam am y tro cyntaf.  Ac fel cynifer o Eisteddfodau Wrecsam, roedd hon yn wyl i’w chofio.

Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod fodern, cafwyd Cadair Ddu.  Roedd y bardd buddugol, Taliesin o Eifion, Thomas Jones, wedi marw y noson yr anfonwyd ei awdl i Wrecsam, yn ôl y stori, a’i eiriau olaf oedd “Ydyw’r awdl wedi ei danfon yn saff?”

Fel sy’n nodweddiadol o arddull papurau newydd y cyfnod, mae’r adroddiad a geir ym Maner ac Amserau Cymru ar 30 Awst 1876, yn hynod o emosiynol a lliwgar, gan ddweud y byddai pobl yn dal i hel atgofion am Eisteddfod 1876 ymhen hanner can mlynedd, oherwydd y Gadair Ddu.

Mae’r adroddiad yn sôn am y Bencerddes Edith Wynne yn canu ‘Dafydd y Garreg Wen’ ar lwyfan y Pafiliwn, a dywed, “Ac yn enwedig yr olygfa pan y ciliodd ein Pencerddes i’r tu ôl i’r gadair, wedi “tori i lawr” a’i llwyr orchfygu gan ei theimlad nes methu myned yn mhellach! Pan y safai y beirdd yn rhes o bobtu i’r gadair, yn fudion, a’r dagrau yn burstio allan yn ddistaw, ac yn rhedeg yn afonydd ar hyd eu gruddiau; dagrau y Barwnig o Wynnstay, yr hwn a adwaenai y bardd cadeiriol yn dda, yn syrthio fel pys o’i lygaid, nes yr oedd llawes côt Hwfa Môn, yr hwn a ddigwyddai fod ar y pryd yn sefyll yn agosaf ato ar un llaw, yn wlyb trwyddynt.”

‘Doedd yr Eisteddfod heb weld golygfa debyg o’r blaen, ac ychydig a fyddai’n dychmygu y byddai’r Brifwyl yn wynebu’r un galar eto.  Ond, wrth gwrs, cafodd y gorchudd du ei daenu dros freichiau’r Gadair ym Mhen Bedw yn 1917, pan enillodd Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, y Gadair.

Erbyn diwedd y ddegawd, roedd yr Eisteddfod yn amlwg wedi dod yn ddigwyddiad pwysig, gyda miloedd o ymwelwyr yn tyrru i’r Pafiliwn yn flynyddol, cymaint felly, nes yn 1878, a’r Eisteddfod ym Mhenbedw, roedd Y Genedl Gymreig yn adrodd mai “Yr Eisteddfod ydyw y pwnc y dyddiau hyn.  Mawr yw’r siarad sydd am yr Eisteddfod Genedlaethol.  Pa fan byag y bydd i chwi fyned, yr ydych yn siwr o glywed gair am yr Eisteddfod – miloedd yn bwriadu mynd i Birkenhead, a miloedd, oherwydd caethiwed, yn gorfod aros gartref.”

Ac er mwyn atgyfnerthu’r pwynt a’r angen i bobl o bob oed a chefndir gael cyfle i ymweld ‘r Eisteddfod, mae’r erthygl yn nodi, “Grand idea fyddai i’r masnachwyr gau eu masnachdai am un diwrnod… Chwarae teg i’r counter-jumpers gael un diwrnod o holiday yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Masnachwyr Cymru, os bydd i chwi ganiatau un dydd i’ch young men and young ladies, bydd iddynt eich bendithio tra byddant byw.”

Ac wrth i ni gyrraedd diwedd ein golwg gyntaf ar yr Eisteddfod trwy lygad y wasg, lle gwell i ddychwelyd nag Aberdar?  Dyma lle y cychwynnodd ein taith, ac yma y bydd yn gorffen hefyd, gydag adroddiad yn Y Genedl Gymreig ar 2 Medi 1885, sy’n sôn am y paratoadau yn nhref Aberdar ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod:

“Yr oedd y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn bobpeth allenid dymuno.  Bu Aberdar wrthi am wythnosau yn golchi ei gwyneb ac yn trwsio a pharatoi ei hun i ro’i derbyniad gwir dywysogaidd i un o brif sefydliadau y genedl.  Yr oedd y galwad am wasanaeth y painters a’r paper hangers y fath, fel nas gellid, ym mhell cyn diwedd yr wythnos flaenorol i’r Eisteddfod sicrhau gwasanaeth un ohonynt am gariad nac arian.  Yr oedd golwg hardd ar brif heolydd y dref a’r amgylchedd yn gynar dydd Llun Awst 24ain, y lle yn llawn bywyd, a’r banerau o bob lliw a maint a llun, yn chwifio yn yr awyr.”

Ond gwahanol iawn oedd agwedd y papur at ymgais busnesau lleol i elwa o ymweliad yr Eisteddfod – rhywbeth sy’n cael croeso brwd gan yr Eisteddfod ei hun, ei hymwelwyr a’r wasg a’r cyfrynagu erbyn heddiw.  Yn 1885, roedd sylwadau Y Genedl Gymreig yn hollol glir:

“Drwg gennym i rai o fasnachwyr y lle ddangos hunangarwch a diffyg chwaeth beiadwy dros ben, trwy gymeryd mantais ar ein gwyl genedlaethol, rhai i hysbysu yr esgidiau di gyffelyb oedd ganddynt ar werth, eraill eu cig moch, ac eraill eu defnyddiau dillad.  Ni welid ar lawer o’r banerau yn Cardiff St gymaint ag un arwyddair Eisteddfodol, ac ymddengys y credai rhai mai yr addurn penaf allent roddi ar eu baner oedd llythyrenau eu henwau eu hunain.  Tybient yn ddiau mai peth pwysig i’r miloedd dyeithriaid a gyrchent i’r Eisteddfod o ddydd i ddydd oedd cael eu gwneyd yn hysbyss o’u bodolaeth hwy.  Wfft i’r fath fodachod.”