Rhyddhaodd y band o ogledd Cymru eu hail albwm ym mis Awst 2023, yn dilyn llwyddiant eu halbwm cyntaf, Byd Llonydd. 

Mae’r albwm diweddaraf yn felodaidd iawn, ac yn tynnu ar ystod o arddulliau o’r 60au a’r 70au. 

Mae geiriau doniol, gwleidyddol i amryw o’r caneuon gyda nifer wedi’u canu gydag acen y de. 

Dros y misoedd diwethaf mae’r band wedi cefnogi Gruff Rhys a Spiritualized, ac wedi chwarae sesiwn fyw ar BBC 6 Music.