Mae Ysgol Garth Olwg yn falch iawn o noddi Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 yn ogystal â chyflwyno'r wobr ariannol.
Mae pwysigrwydd addysg Gymraeg wedi’i wreiddio’n ddwfn yn yr ardal hon ac ymfalchïwn mai yma ym Mhontypridd yr agorwyd yr Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf yn y de yn 1962.
Bryd hynny roedd disgyblion yn teithio o bob man yn y de i dderbyn addysg Gymraeg yn Rhydfelen, a braf fydd croesawu Cymru gyfan yn ôl i'r ardal ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
Esgorodd llwyddiant y cyfnod yma ar yr holl ysgolion Cymraeg sydd yn ne Cymru heddiw a mawr yw ein diolch i rieni’r ardal am roi eu ffydd barhaus mewn addysg Gymraeg.
Rhaid hefyd dathlu llwyddiant yr holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg. Bellach, Ysgol Garth Olwg sy'n gwasanaethu'r ardal arbennig hon ac mae ein hysgol 3-19 oed yn mynd o nerth i nerth gan sicrhau addysg Gymraeg o'r safon uchaf i blant a phobl ifanc ardal Pontypridd.
Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r gwneuthurwr i roi syniadau a gweledigaeth y disgyblion ar waith ac mae cyffro yn yr ysgol yn barod at baratoadau’r Eisteddfod yn ystod y flwyddyn nesaf.
Mae’r ysgol wedi meithrin sawl bardd sydd wedi ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol ac felly pleser i’r ysgol yw noddi Coron ein heisteddfod genedlaethol leol ni.
Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf
Y cysyniad
Rydym yn gwahodd pobl i fynegi diddordeb mewn dylunio a chreu Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Caiff ei chyflwyno i enillydd un o ddwy gystadleuaeth farddol fwyaf yr Eisteddfod, a gynhelir ym Mhontypridd 3-10 Awst 2024. Ysgol Garth Olwg sydd yn noddi Coron yr Eisteddfod yn 2024, ac felly, yr ysgol fydd yn cytundebu’r ymgeisydd llwyddiannus maes o law.
Y Goron yw un o brif anrhydeddau’r Eisteddfod, a dylai’r dyluniad a’r gwneuthuriad fod o’r safon uchaf. Mae’n symbol a ddefnyddir mewn seremoni gyhoeddus a gynhelir ar y llwyfan mawr ger bron miloedd o bobl ar ddydd Llun yr Eisteddfod, ac felly bydd angen i’r dyluniad terfynol a gyflwynir cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd cyn dechrau ar y gwaith (Hydref 2023).
Meini prawf dylunio
Dathlu tirwedd, diwylliant a hanes yr ardal gan ystyried hefyd yr elfen amgylcheddol wrth greu o’r newydd.
Mae angen cynnwys y canlynol yn y dyluniad:
• /|\ Y Nod Cyfrin. Dylid ei osod mewn lle amlwg ac urddasol
• Enw swyddogol yr Eisteddfod sef:
Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Peidiwch â chynnwys unrhyw eiriau eraill
• Dylai’r Goron gael ei chwblhau erbyn 5 Ebrill 2024
/|\ Y NOD CYFRIN
Mae’r Nod Cyfrin /|\ neu Nod y Pelydr Golau yn symbol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg i gynrychioli Cariad, Cyfiawnder a’r Gwir. Fodd bynnag, ni wnaeth Iolo ei hun fawr ddim defnydd o’r symbol, ac ni ddaeth yn boblogaidd tan ar ôl ei farwolaeth. Fe’i gwelwyd yn gyntaf ar y Sgrôl Gyhoeddi yng Nghaerdydd, 1833: erbyn 1850, gellid ei weld ar faneri’r gorseddau ac o tua 1860 ar dystysgrifau aelodau newydd. Erbyn diwedd y ganrif fe’i hystyrid yn symbol cymeradwy Gorsedd y Beirdd, ac ymddangosodd ar ei rhaglenni, ar y faner newydd ac weithiau hyd yn oed ar Gerrig yr Orsedd. Erbyn y 1950au, penderfynwyd bod yn rhaid cynnwys y symbol ar bob un o Gadeiriau a Choronau’r Eisteddfod.
Camau cyllidebol a’r prosiect
Y gyllideb ar gyfer dylunio a chreu’r Goron yw hyd at £3,000 (+ TAW os yw’r dylunydd wedi’u gofrestru ar gyfer TAW), i’w dalu mewn tri rhandaliad o dderbyn cyllideb fanwl ac anfoneb:
- Cam 1 - Gweledigaeth a chynllun drafft a chymeradwyaeth gan yr Ysgol a Bwrdd yr Orsedd: Taliad o 33% ddiwedd Hydref 2023
- Cam 2 – Ymweliad â disgyblion yr ysgol a datblygu cynllun gan ddechrau arni: Taliad o 33% ddiwedd Rhagfyr 2023
- Cam 3 - Cwblhau’r Goron: taliad olaf ar ôl ei chyflwyno’n orffenedig a’i chymeradwyo gan yr ysgol a’r Eisteddfod ynghyd â lluniau swyddogol, 5 Ebrill 2024
Amserlen
- Rhaid cyflwyno’r cais cyn 17:00, 13 Hydref 2023
- Cynhelir cyfweliadau'r ymgeiswyr ar y rhestr fer ddydd Llun 16 a / neu dydd Mawrth 17 Hydref 2023
- Bydd angen i’r weledigaeth gychwynnol a chynllun drafft fod yn barod erbyn y cyfweliad
- Bydd y cynllun angen cael ei gymeradwyo gan yr ysgol a Bwrdd yr Orsedd ddiwedd Hydref 2023
- Wedi hynny bydd gofyn i’r gwneuthurwr ymweld â disgyblion ac athrawon yr ysgol i drafod y cynllun drafft a’i ddatblygu gyda hwy fel rhan o’r broses
- Bydd angen i’r Goron gael ei chwblhau’n llawn erbyn 5 Ebrill 2024
Bydd gofyn i’r gwneuthurwr gadw cofnod digidol o’r gwaith creu, er mwyn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn ddigidol drwy gydol y cyfnod llunio. Yr Eisteddfod yn ganolog, ac nid y gwneuthurwr, fydd yn cysylltu efo’r cyfryngau.
- Y dyddiad i’w chyflwyno i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a’r lansiad i’r wasg yw canol Mehefin 2024 (bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol)
- Dyddiad y Coroni yw dydd Llun 5 Awst 2024
- Gofynnir i’r gwneuthurwr ddarparu lluniau amrywiol safonol i’r Eisteddfod, unwaith i’r Goron gael ei chwblhau ar gyfer y Rhaglen a hyrwyddo cyffredinol (5 Ebrill 2024)
Sut i ymgeisio
Anfonwch eich cais mewn e-bost at Elliw Mair elliw.mair@gartholwg.cymru erbyn 17:00, 14 Hydref 2023
Dylid cynnwys y canlynol:
- Enw llawn a manylion cyswllt
- Bywgraffiad, gan gynnwys delweddau (e.e. brasluniau, ffotograffau) o waith blaenorol
- Gweledigaeth / cysyniad mewn llai na 500 gair, a chynllun / dyluniadau. Rhaid cynnwys delweddau yn y rownd gyntaf gan egluro’r cynllun drafft, y defnydd o’r deunyddiau (y meddylfryd amgylcheddol), ysbrydoliaeth ac yn y blaen
- Datganiad eich bod ar gael am gyfnod y prosiect ar ei hyd gan gynnwys ymweliad â’r ysgol
- Dadansoddiad o’r amcan gyllideb ymlaen llaw
- Manylion cyswllt dau gleient blaenorol a allai ddarparu geirda
Caiff ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i wneud cyflwyniad 10 munud o hyd ar Zoom / Teams, a chymryd rhan mewn trafodaeth fer gyda phanel fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ysgol ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig a / neu Reolwr Cystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol, 16/17 Hydref 2023. Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ariannol byr drwy e-bost cyn y cyfarfod.
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch ag elliw.mair@gartholwg.cymru neu ffoniwch 01443 570 057 a gofynnwch am Elliw Mair.