Bydd Brwydr y Bandiau yn agored i fandiau / artistiaid sy’n cyfansoddi, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol. Mae’r genres cyfoes hyn yn cynnwys indie, electroneg, trefol, MOBO, pop, roc, byd, canu gwerin cyfoes ac unrhyw genres cerddorol cyfoes eraill newydd sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd
Gwobr:
- £1,000
- slot yn Maes B ar Sadwrn olaf yr Eisteddfod
- £500 tuag at costau creu fideo gan Pyst/AM
- Gig Clwb Ifor Bach
Sut mae ymgeisio ar gyfer Brwydr y Bandiau?
Rownd 1:
Gall bandiau / artistiaid ymgeisio drwy gyflwyno demo neu recordiad fideo o set hyd at 15 munud o 2 – 4 cân wreiddiol
Rownd 2:
Bydd y beirniaid yn dewis 4 band / artist i fynd ymlaen i’r rownd nesaf ac yn cael y cyfle i:
- Recordio 2 gân bydd yn cael eu darlledu ar Radio Cymru ac ar platfformau digodol yr Eisteddfod
- Perfformio set byw 20 munud o ganeuon gwreiddiol Cymraeg (neu yn ddi eiriau) ar Lwyfan y Maes yr Eisteddfod ar Ddydd Mercher 6 Awst
Beirniaid: Ifan Pritchard, Talulah, Minas
Dyddiad Cau: 1 Mai 2025
I ymgeisio, anfonwch eich demo neu recordiad fideo at rhys@eisteddfod.cymru.
Pob lwc!
