Cerys Hafana - Edyf (Annibynol)
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cerys Hafana wedi ailgyflwyno'r delyn deires i genhedlaeth newydd, gyda safbwynt ac agwedd arbrofol i chwarae’r offeryn traddodiadol hwn. Gyda’i hail albwm, Edyf, ehangodd Cerys Hafana ei chwmpas offerynnol gan gynnwys adrannau llinynnol a phres ar y cyd â churiadau rhythmig i greu cywaith sonig arloesol. Amhosib yw hi i wahanu llais swynol y gantores o Fachynlleth rhag ei llinellau telynegol ar y delyn deires - maent yn bwydo ar ei gilydd ar y record hon i greu sainlun trawiadol ac unigryw.