Eisteddfod Boduan 2024

A oes heddwch?

Yn Rhagfyr 2026, bydd hi'n ddau canmlwyddiant marwolaeth lolo Morganwg, ac i gyd-fynd â hyn rydym yn hyrwyddo apêl i gomisiynu darn o gelfyddyd a fydd yn ymateb trawiadol i'r alwad sy'n gonglfaen i’r Orsedd a sefydlwyd ganddo, sef yr ymadrodd 'A Oes Heddwch?'

Dyma ofyn felly, tybed, a ydych chi'n gallu cyfrannu at yr ymgyrch?

Dylid nodi ein bod yn gwbl ymwybodol bod codi cofeb fel hyn yn dod â heriau ymarferol yn ei sgil, a phe byddem, am ba bynnag reswm, yn gweld nad oes modd gwireddu'r cynllun i safon deilwng, y bwriad yw trosglwyddo unrhyw roddion i gronfa ganolog yr Eisteddfod. Afraid dweud y bydd pob un cyfraniad, waeth beth yw ei faint, yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
 

Diolch am bob cefnogaeth!

Swm eich rhodd
Rwyf am ychwanegu Rhodd Cymorth at y cyfraniad hwn ac unrhyw gyfraniadau a wnaf yn y dyfodol neu a wnaed gennyf yn y 4 mlynedd diwethaf. Rwyf yn drethdalwr yn y DU ac yn deall, os byddaf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth Enillion Cyfalaf na swm y Rhodd Cymorth a hawliwyd ar fy holl gyfraniadau yn y flwyddyn dreth honno, fy nghyfrifoldeb i yw talu unrhyw wahaniaeth.