Arwydd Eisteddfod gyda phafiliwn streipiog melyn a glas yn y cefndir

Rydym wedi ysgrifennu atoch i ofyn am eich cynlluniau gyda'r cynlluniau traffig yn ystod yr ŵyl. Ein nod yw ceisio sicrhau ein bod yn helpu traffig i redeg mor rhwydd â phosibl yn ystod yr ŵyl, heb achosi unrhyw broblemau ychwanegol i drigolion lleol.

Rydym yn sylweddoli fod Pontypridd yn brysur ar y gorau, ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Sir a’r gwasanaethau brys i greu cynllun rheoli traffig, sy’n cynnwys rhai newidiadau i’r ardal a threfniadau parcio lleol yn ystod wythnos yr ŵyl ei hun. Fel partneriaid, rydym yn diolch i chi ymlaen llaw am eich cydweithrediad parod i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth i bawb trwy gydol y cyfnod.

Bydd cyfyngiadau parcio yn cael eu cyflwyno mewn rhannau o’r dref dros yr ŵyl, gan ddod i rym ddydd Iau 1 Awst. Un o'r lleoliadau yr effeithir arnynt yw Heol Berw, lle bwriedir cyflwyno Gwahardd Cyfyngiad Stopio Dros Dro rhwng y Bont Wen a throsbont y rheilffordd i'r gogledd. Bydd y mesurau hyn yn gwahardd cerbydau rhag stopio a / neu barcio ar hyd y rhan hon o Heol Berw ar unrhyw adeg tan ddydd Sul 11 Awst.

Rydym yn ymwybodol y bydd y cyfyngiad hwn yn effeithio ar drigolion sy’n byw ar Heol Berw, ac rydym wedi trefnu darpariaeth parcio amgen ar faes carafanau’r ŵyl ar gyfer hyd at ddau gar o eiddo 106-128 Berw Road. Llenwch y ffurflen isod, os gwelwch yn dda a byddwn yn anfon pasys parcio atoch drwy ebost.

Bydd y Cyngor yn monitro’r cyfyngiadau yn ystod yr wythnos, a lle bo angen gall y cyfyngiadau newid er mwyn cadw pawb yn ddiogel a’r traffig i symud, yn dilyn ymgynghoriad gyda’r asiantaethau partner.

Rydym hefyd wedi creu llwybr beicio a cherdded dynodedig diogel a phwrpasol, a bydd trigolion ein maes carafanau a Maes B yn ei ddefnyddio er mwyn teithio i’r Maes ac yn ôl yn ystod yr wythnos. 

Llenwch ran gyntaf y ffurflen, pwyswch 'nesaf' ac yna 'cyflwyno'. Diolch am eich cydweithrediad.