Pa ddyfodol i’r Gymraeg fel pwnc?

Sgwrs banel i drafod a yw Cymru’n rhoi digon o fri ar y Gymraeg fel pwnc academaidd.

Gyda llai a llai yn astudio Lefel A a gradd yn y Gymraeg, dewch i glywed am ymdrechion y Coleg Cymraeg ac eraill i droi’r trai, ac i drafod beth yn rhagor sydd angen ei wneud.

Cyfergydion, TB ac arfordir Fietnam: 20 mlynedd o ysgoloriaethau ymchwil, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dewch i glywed mwy am effaith graddau PhD y Coleg Cymraeg ar Gymru a'r byd.

Digwyddiad i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu cynllun ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n cefnogi myfyrwyr i astudio doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers sefydlu’r cynllun mae dros 180 o bobl wedi cyflawni doethuriaeth (PhD) dan nawdd y Coleg mewn meysydd amrywiol sydd wedi agor drysau iddynt i yrfaoedd llwyddiannus yn y byd academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, fel darlithwyr neu fel ymchwilwyr, a thu hwnt mewn meysydd eraill.

Dewch i wrando ar straeon unigolion sydd wedi creu argraff yng Nghymru ac ar draws y byd.