Ond ers yr ŵyl fawreddog yng Nghastell Caernarfon y flwyddyn flaenorol, roedd yr Eisteddfod wedi colli dau o’i hoelion wyth, fel y nodwyd yn Y Gwladgarwr ar 28 Mawrth 1863, “Nos Fawrth diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod gan Bwyllgor Lleol Abertawe, perthynol i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Guildhall. Yr oedd y cynulliad yn lluosog ac etholwyd Mr Alderman Phillips i’r gadair. Wedi darllen nodiadau y cyfarfod diweddaf, galwyd sylw at y golled dwys a ddyoddefa yr Eisteddfod yn marwolaethau Alaw Goch ac Eben Fardd. O barch i goffadwriaethau y ddau fardd a’r gwreniaid hyn, penderfynwyd i ohirio unrhyw wobr am gyfansoddiadau ar fywydau a gweithiau y ddau hyd Eisteddfod arall, fel ag i roddi digon o amser i gyfansoddi a gwneud cyfiawnder a’r pwnc.”
Mae’n werth dyfynnu rhan o’r deyrnged i Alaw Goch, a ymddangosodd yn Y Gwladgarwr ar 7 Mawrth 1863, “Ychydig feddyliodd ef ei hun, a llai feddyliodd ei gyfeillion mai y boreu braf hwn, oedd y boreu olaf a gawsai Alaw Goch yn y byd hwn. Mwynhaoedd ei foreufwyd fel arferol, treuliodd y rhan flaenaf o’r dydd yn ac o amgylch ei dy. Amser ciniaw aeth at y bwrdd yn llawn llonder, gan wasgar ffraethebau diniwed nes llanw pob mynwes a llawenydd, a harddu pob gwefus a gwen… Ond Oh! nid oedd y cyfan ond gorddysglaerdeb llachar gwreichion yn ymlosgi allan. Daeth sirioldeb, bywiogrwydd, ffraethineb, craffder a hawddgarwch ei ddyddiau goreu allan yn Alaw Goch yr wythnos ddiweddaf, ond i ddiffoddi am byth yn y fuchedd hon.”
Roedd y golled yn un enbyd i’r Eisteddfod Genedlaethol, a hynny, dim ond ychydig flynyddoedd ar ôl i Alaw Goch ac Eben Fardd ill dau fod yn rhan mor allweddol o greu’r sefydliad cenedlaethol newydd. Roedd trefnwyr Eisteddfod 1863 yn teimlo’r golled yn arw iawn, ac yn credu bod angen blwyddyn ar y beirdd i’w galluogi i gyfansoddi unrhyw gerddi ‘swyddogol’ yn galaru ar ôl y ddau a fu mor flaenllaw yn niwylliant Cymru.
Ond roedd yn rhaid bwrw ymlaen gyda threfniadau ar gyfer yr Eisteddfod yn Abertawe, ac yn 1863, gwelwyd creu ysgoloriaeth gerddorol fel rhan o’r Brifwyl. Ceir adroddiad am hyn yn Y Gwladgarwr ar 15 Awst, ““Da gennym weled yr ysgoloriaeth gerddorol wedi ei sefydlu, - gwna hon dynnu egni allan a chynorthwyo yn effeithiol er cyrhaedd uwch diwylliaeth yn nghanu ein gwlad. Mae ynom gred go gadarn fod plant mynyddau Gwalia i sefyll yn lled uchel yn mysg canwyr Prydain cyn hir; ac os daw hyn i ben, bydd melus gofio am y cynhyrfiad o hyn a’r cymorth at hynny a dderbyniwyd o Eisteddfod Abertawe. Yr ydym yn llawenhau hefyd am fod y celfau yn cael sylw, ac yn neillduol am fod testynau wedi eu rhoddi allan a ddaliant gysylltiad mor agos a’n dedwyddwch a’n cysuron teuluol a phersonol.”
Felly, gyda mis i fynd tan yr Eisteddfod, roedd pethau’n siapio a phawb yn edrych ymlaen am chwip o Eisteddfod. Roedd hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg yn annog pobl i ymweld â’r ŵyl drwy deithio ar y tren, ac roedd Y Gwladgarwr yn hapus iawn i ganu clodydd y paratoadau, drwy ddatgan, “Mae adeg ein gwyl fawr lenyddol gerllaw; ac os barnwn wrth egni y pwyllgor gweithiol, wrth nifer y cyfansoddiadau anfonedig i fewn, wrth enwogrwydd y cantwyr, y chwaraewyr, yr areithwyr, a’r beirniaid, wrth fri y llywyddion, ac wrth sŵn y wlad, bydd Eisteddfod Abertawe yn rhagori ar bob Eisteddfod a gynhaliwyd hyd yn bresennol.”
Ac wrth i’r ŵyl gychwyn, adroddodd Y Gwladgarwr fod “…yr holl baratoadau lleol ar gyfer ei chynnal wedi ei dwyn i ben yn brydlawn. Y mae y babell yn anrhydedd o’r mwyaf i bobl dda Abertawe. Y mae wedi ei hadeiladu, fel y cyfeiriasom o’r blaen , yn y Burrows Square ac yn abl i gynnwys, o leiaf chwe mil o bersonau. Y mae yn adeilad gref, ac wedi ei chyhoeddi gan Swyddog Bwrdd Iechyd y dref yn addas i ddyben ei hadeiladiad. Mae y babell eang hefyd wedi ei haddurno yn ardderchog, fel y bydd yr holl ymwelwyr yn argyhoeddedig, nad oes na chost na thrafferth wedi eu harbed er ei gwneud yn gyfleus a chysurus.”
Cawn ddychwelyd at y ffaith fod y babell yn “adeilad gref, ac wedi ei chyhoeddi gan Swyddog Bwrdd Iechyd y dref yn addas i ddyben ei hadeiladiad” cyn bo hir. Yn y cyfamser, roedd y dref i gyd yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod, gydag Y Gwladgarwr yn datgan, “Er yn foreu heddyw (dydd Mawrth) mae y dref yn hollol fywiog - banerau amryliw a changhennau bythwyrddion yn addurno y rhan luosocaf o’r heolydd - clychau yr Eglwysi yn cael eu chwareu yn fywiog - a’r holl reilffyrdd fel pe am dywallt am y mwyaf o filoedd o ymwelwyr dyeithr i mewn.”
Ar ei gwefan, mae Amgueddfa Cymru’n sôn am ddechreuadau’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn tynnu sylw at 1863 yn arbennig, gan mai dyma gychwyn cyfnod y canu corawl, gyda medal yn cael ei chyflwyno i’r côr buddugol. Roedd tri chôr yn y gystadleuaeth yn ôl Y Gwladgarwr, “Y pryd hyn cymerodd gystadleuaeth gorawl fawreddog le, ar y tri chydgan, wedi eu hethol gan Owain Alaw. Enillwyd y prif wobr, £10, gan gôr Undebol Aberdar, dan arweiniad Mr S Evans, i’r hwn y cyflwynwyd y wobr gan Miss Vivian. Enillwyd yr ail wobr, £5, gan gôr Undebol Abertawe a Threforis, a chyflwynwyd y wobr i’w blaenor gan Miss Williams, Llanfairynghornwy. Enillwyd y trydydd wobr, £2, gan gôr Undebol Dyffryn Tawe, a chyflwynwyd y wobr i un o’r aelodau gan Mrs Griffiths, Castellnedd.”
Hon oedd y gystadleuaeth gorawl fawr gyntaf yng Nghymru, a dyma oedd dechrau traddodiad Eisteddfodol pwysig sydd wedi parhau hyd heddiw. Isod ceir llun o’r Fedal a gyflwynwyd i’r côr buddugol.
Ond mae’n rhaid troi at Seren Cymru ar 11 Medi i glywed am ddigwyddiad mwyaf cyffrous ac anffodus yr Eisteddfod yn Abertawe, a hynny ar ôl i Swyddog Bwrdd Iechyd y dref ddatgan fod y babell yn ‘addas i ddyben ei hadeiladiad’, pan dorrwyd ar draws y cyngerdd ar nos Iau gyda’r hyn a elwid yn ‘DYGWYDDIAD ANFFODUS’:
“Pan oedd pob peth ar fod yn barod i ddechreu, a phawb wedi gosod eu hunain yn dawel i fwynhau eu hunain, taflwyd y gynulleidfa i ddychryn drwy y DYGWYDDIAD ANFFODUS i un o’r trawstiau dan yr oriel ddeheuol gracio. Yn ffodus, daliwyd y trawst yn ei le gan y gwialenau heiyrn oedd o’i hamgylch, onite nid oes amheuaeth na chollai amryw eu bywydau. Achosodd hyn cryn gynhwrf yn mysg y dorf, yn enwedig yn y gymmydogaeth lle y cymerodd y ddamwain le. Ar hyn, er dwyn sylw y gynulleidfa oddiwrth y dygwyddiad, drwy orchymyn y Maer, yr hwn a lywyddai, chwythwyd mewn udgorn, yr hyn a gafodd yr effaith o lonyddu y gynulleidfa. Wedi hyny, canodd y côr gân “Tywysog Gwlad y Bryniau,” a chanodd Miss Edith Wynne, “Mae Robin yn Swil.” Fodd bynnag, cynhyrfu wnâi y dorf, gan y teimlent yn anesmwyth o berthynas i’w diogelwch; a dymunodd y maer ar y bobl ymwasgaru, gan hysbysu y gwnelai eu tocynnau y tro am y noswaith ganlynol; a chyn pen hanner awr, yr oedd yr adeilad eang yn wag. Y mae clod mawr yn ddyledus i’r maer am y modd y meddiannodd ei hun dan yr amgylchiad, ac i’r dorf hefyd am wasgaru mor rheolaidd. Cynnaliwyd pwyllgor yn union ar y mater, a sicrhawyd yr oriel erbyn gweithrediadau y dydd canlynol.”
Ceir rhagor o fanylion, ac adroddiad ychydig yn llai canmoladwy i’r Eisteddfod yn y Monmouthshire Merlin ar 12 Medi, “The concert on Thursday evening, was abruptly brought to a termination by some rafters, &c., giving way in the western gallery, causing much alarm, and the rush to the doors was terrific. Several persons were knocked down and slightly injured, but fortunately, no serious accident occurred. The cause of the accident was the overcrowding of the building, there being at least a thousand more admitted than the pavilion was calculated to seat comfortably. The damage was repaired by the contractors during the night.”
Ond mae’r ddau adroddiad yn datgan yn glir fod y trawst wedi’i drwsio, a bod modd ail-gydio yn yr Eisteddfod erbyn bore dydd Gwener. Ac mae Seren Cymru yn cloi’r adroddiad yn rhifyn 11 Medi gyda’r geiriau canlynol, “…dygwyd gweithrediadau yr Eisteddfod Genedlaethol am 1863 i derfyniad, ac nid oes amheuaeth na chofir am dani am amser maith i ddod gan y miloedd a gawsant y pleser o fodd wyddfodol ynddi. Gyda’r eithriad o’r ddamwain nos Iau, pasiodd y cwbl yn llwyddiannus; a chredwn fod yr Eisteddfod Genedlaethol bellach wedi ei sefydlu ar sylfaen sicr.”