Mae Cyflwynydd y Corn Hirlas yn chwarae rhan amlwg yn seremonïau Gorsedd Cymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod a seremoni'r Cyhoeddi ar 17 Mai 2025. Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd, Sir Benfro ym mis Awst 2026.
Rydyn ni'n chwilio'n benodol am oedolyn sy'n:
- Byw neu'n dod o ardal yr Eisteddfod;
- Awyddus i gefnogi ein gwaith o hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant, ac yn gallu dangos sut maen nhw'n gwneud hyn;
- Gallu sicrhau eu bod nhw ar gael ar y dyddiau dan sylw;
- Gallu symud yn urddasol a gosgeiddig i gerddoriaeth araf y delyn a llefaru ar eu cof, mewn llais clir a chroyw, eiriau'r cyflwyniad, sef:
"Hybarch Archdderwydd, yn enw Aelwydydd Sir Benfro
gofynnwn i ti yfed o win ein croeso i'r Orsedd a'r Eisteddfod."
Gellir llogi'r wisg gan yr Orsedd, neu ddarparu gwisg mewn ymgynghoriad â'r Orsedd.
Cynhelir y clyweliadau nos Lun 3 Chwefror o 17:00 - 19:00 yn Neuadd y Farchnad, Crymych. Yna, cynhelir ail gyfweliad yn Neuadd y Farchnad nos Lun 10 Chwefror o 17:00 - 19:00.
Rydym yn croesawu ceisiadau'n arbennig gan ymgeiswyr anabl ac o bob cefndir ethnig ar gyfer y rôl.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23 Ionawr.