Mae amserlen Cymdeithasau ymysg y mwyaf diddorol ac amrywiol ar y Maes, ac mae croeso i unrhyw gymdeithas neu sefydliad gysylltu i gynnal sesiwn yma. Dyma gartref trafodaeth ar y Maes, ac efallai bod Cymdeithasau’n un o gyfrinachau’r Eisteddfod.
Mae rhai cymdeithasau’n cynnal cyfarfodydd yma gan fod yr Eisteddfod yn yr ardal leol, ond mae amryw yn dod atom yn flynyddol ein bod ni’n gyfle iddyn nhw ddenu cynulleidfa o bob rhan o Gymru.
Mae’r amserlen yn llawn o ddarlithoedd, sesiynau trafod, aduniadau, pob math o weithgareddau.
Mae sesiynau Cymdeithasau 1 yn cychwyn ar yr awr a sesiynau Cymdeithasau 2 yn cychwyn am hanner awr wedi'r awr.
Gallwch wylio rhai o sesiynau Cymdeithasau 2024 yma, a bydd sesiynau 2025 yn ymddangos ar YouTube yn yr hydref.