Bandiau Pres Pencampwriaeth I Dosbarth 1, 2 I 3 a 4
Bydd pob band yn defnyddio’u Graddau Cenedlaethol a rhaid iddynt fod wedi cofrestru gyda chofrestrfa Brass Band Players (BBP) www.bbpregistry.com

  1. Caniateir uchafswm o 25 chwaraewr pres yn ogystal ag offerynwyr taro yn ôl yr angen yn y cystadlaethau hyn.
  2. Trefnir y gystadleuaeth yn unol â’r Rheolau Cystadlu Cenedlaethol (drwy garedigrwydd y Gofrestrfa):
    • Rheol 17 (chwaraewr nad yw’n gallu cystadlu)
    • Rheol 18 (cofrestru)
  3. Rhaid i bob band wisgo gwisg briodol os nad oes caniatâd wedi’i roi gan Reolwr y Gystadleuaeth ymlaen llaw.
  4. Gall bandiau o Ddosbarth 2 | 3 gystadlu yn y Bencampwriaeth | Dosbarth 1 cyn belled â’u bod hefyd yn cystadlu yn eu dosbarth eu hunain ac yn perfformio rhaglen wahanol yn y ddwy gystadleuaeth.
    Gall bandiau o Ddosbarth 4 gystadlu yn Nosbarth 2 | 3 cyn belled â’u bod hefyd yn cystadlu yn eu dosbarth eu hunain ac yn perfformio rhaglen wahanol yn y ddwy gystadleuaeth.
  5. Bydd bandiau’n cael eu cosbi os ydynt yn mynd dros yr amser. Os bydd cystadleuaeth yn gyfartal ar ôl ystyried pwyntiau cosb, dyfernir y wobr i’r band a dderbyniodd y cyfanswm mwyaf o bwyntiau gan y beirniad.
  6. Bydd y beirniad yn eistedd wrth fwrdd y beirniaid yng nghorff y Pafiliwn.
  7. Trosglwyddo dros dro – un diwrnod yn unig.
    • Ni ellir defnyddio trosglwyddiad dros dro ar gyfer mwy na phum chwaraewr (gan gynnwys offerynwyr taro).
    • Gall chwaraewr sydd ar drosglwyddiad dros dro chwarae mewn hyd at dri band, sef ei f/band cofrestredig a dau fand arall.
    Noder: Os nad yw band cofrestredig chwaraewr sydd ar drosglwyddiad yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, gall y chwaraewr berfformio gyda dau fand.
    • Rhaid gwneud cais am drosglwyddiad dros dro ar y ffurflen gydnabyddedig, wedi’i llofnodi gan swyddogion y ddau fand neu drwy lythyr at Reolwr y Gystadleuaeth, ac mae’n rhaid i’r chwaraewr dros dro gyflwyno’i g/cherdyn cofrestru ar ddiwrnod y gystadleuaeth.
    • Gellir gwneud cais am drosglwyddiad dros dro hyd at ac yn cynnwys diwrnod y gystadleuaeth.
    • Gellir gwneud cais am drosglwyddo chwaraewr dros dro sy’n gymwys i chwarae yn yr un Dosbarth neu fandiau o Raddfa Genedlaethol is. Gall bandiau o Ddosbarth 4 drosglwyddo hyd at bum chwaraewr o fandiau Dosbarth 3 | 4.
    • Ni all chwaraewr a drosglwyddir dros dro chwarae unawd ond gall chwarae mewn deuawd, triawd neu bedwarawd.
  8. Gellir disgyblu unrhyw fand nad yw’n barod i chwarae o fewn pum munud o’r amser a nodir yn nhrefn y rhaglen neu o’r amser pan fydd y band blaenorol yn gadael y llwyfan.
  9. Disgyblaeth ac Apeliadau
    Gellir cymryd camau disgyblu os digwydd unrhyw un o’r canlynol:
    • Torri’r rheolau mewn unrhyw ffordd
    • Methiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau’r gystadleuaeth
    • Unrhyw weithred a all effeithio ar enw da’r gystadleuaeth yn ôl Rheolwr y Gystadleuaeth.
    Os dyfernir chwaraewr, swyddog neu fand yn euog o un o’r uchod, gellir eu cosbi drwy:
    • Eu diarddel o’r gystadleuaeth
    • Fforffedu unrhyw dlysau a / neu ddyfarniadau
    • Eu gwahardd rhag derbyn gwahoddiad i gystadlu yn y dyfodol.
    Bydd gan unrhyw un sydd â chŵyn neu sydd wedi’i ddisgyblu’r hawl i apelio

Bandiau Pres Ieuenctid
Rhaid i bob Band Pres Ieuenctid gynnwys offerynnau pres safonol Prydeinig o ran offeryniaeth.

  1. Uchafswm aelodaeth pob band yw 50 o chwaraewyr, gan gynnwys offerynwyr yr adran daro
  2. Gall bandiau sydd eisiau cystadlu fod yn fandiau ieuenctid, bandiau ysgol neu'n fandiau sir/rhanbarthol
  3. Rhaid i bob rhaglen gynnwys o leiaf dri darn gwahanol, ac mae hawl cynnwys un darn sy'n cynnwys unawdydd o’r band
  4. Bydd y band buddugol yn yr adran hon yn derbyn gwahoddiad i gynrychioli Cymru yn Adran Bencampwriaeth o Bencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop y flwyddyn ganlynol. Cynhelir Pencampwriaeth 2025 yn Linz, Awstria.
  5. Os yw’r band buddugol eisoes wedi sicrhau ei le yn dilyn cystadleuaeth EYBBC y flwyddyn flaenorol, bydd y band yn yr ail safle hefyd yn derbyn gwahoddiad
  6. Dylai chwaraewyr fod yn 21 oed neu’n iau ar 1 Ionawr 2025 (bydd hyn yn sicrhau fod y chwaraewyr i gyd yn gymwys i gystadlu yng nghystadleuaeth yr EYBBC y flwyddyn ganlynol)

    DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y rheolau ac amodau cyffredinol cyn cystadlu.