Amodau Cystadlu

Dyddiad cau cofrestru adran Celfyddydau Gweledol:
1 Ebrill 2024

Ffi cystadlu adran Celfyddydau Gweledol:
£10 y gystadleuaeth

Rheol Iaith
Rhaid i unrhyw eiriau gwreiddiol yn y gwaith celf (yn cynnwys sain a fideo) fod yn Gymraeg. Ond gellir cynnwys geiriau mewn ieithoedd eraill os ydynt yn rhan o wrthrych a ddarlunnir neu a ymgorfforir, neu yn ddyfyniadau, cyn belled nad ydynt yn rhan sylweddol o’r cyfanwaith.

Hawlfraint
Bydd hawlfraint y gweithiau yn eiddo i’r ymgeisydd ond bydd gan yr Eisteddfod yr hawl i atgynhyrchu unrhyw waith mewn print neu ar-lein er mwyn cyhoeddi lluniau o’r arddangosfa ac at bwrpas cyhoeddusrwydd yr Eisteddfod.

Dilysrwydd
Rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod yn waith dilys yr ymgeisydd, ac ni ddylai fod wedi’i arddangos mewn unrhyw Eisteddfod Genedlaethol flaenorol.

Detholwyr
Bydd dyfarniad y detholwyr yn derfynol. Bydd hawl gan y detholwyr i atal yr ysgoloriaeth neu i'w rhannu rhwng mwy nag un ymgeisydd.

Cymorth
Cysylltwch ag yllecelf@eisteddfod.cymru am unrhyw gymorth


Galwad am geisiadau : Arddangosfa Agored Y Lle Celf

Pwy sy’n cael cystadlu?
Mae’r arddangosfa’n agored i unrhyw un:

  1. ganwyd yng Nghymru, neu
  2. y ganwyd un o’i r/rhieni yng Nghymru, neu
  3. sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg, neu
  4. sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn 31 Awst 2024

Cofrestru i gystadlu
Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno hyd at chwe delwedd JPEG 300dpi, neu ddolen i waith fideo / perfformio drwy'r system gofrestru ar wefan yr Eisteddfod. Mae hi'n bwysig eich bod yn cyflwyno delweddau clir o'ch gwaith, gan sicrhau fod y gwaith ar gael rhwng 1 Ebrill i’r 16 Awst 2024. Er mwyn cystadlu, rhaid i'r gwaith fod yn waith a gwblhawyd ers 31 Awst 2022, neu yn waith newydd wedi'i ddylunio'n arbennig ar gyfer yr Ŵyl.

Datganiad Artist
Rhaid cynnwys datganiad artist 200-300 gair ynglŷn â'r gwaith a gyflwynir, h.y. nid bywgraffiad artist ond datganaid am y gwaith.

Gwerthiant
Dylid nodi pris unrhyw waith sydd ar werth wrth gofrestru. Codir comisiwn o 40% (gan gynnwys TAW) ar unrhyw waith a werthir yn ystod wythos yr Eisteddfod.

Galwad am geisiadau : Ysgoloriaeth Artist Ifanc

Cefndir
Dyfernir yr ysgoloriaeth i’r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei (g)alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Bydd yr ysgoloriaeth yn agored i’r sawl sy’n dal i fod o dan 30 oed ar 31 Awst 2024. Disgwylir i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer baratoi portffolio a chyflwyno cais yn esbonio sut y bwriedir defnyddio’r ysgoloriaeth. Ystyrir dangos y gwaith a gyflwynwyd yn Y Lle Celf. Yn ogystal, ystyrir cynnig gofod i enillydd yr ysgoloriaeth yn Y Lle Celf yn Eisteddfod 2025. Ysgoloriaeth i'w dal am flwyddyn yn unig yw hon a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn £1,500 i ddatblygu gyrfa.

Disgwylir i enillydd yr ysgoloriaeth gyflwyno portffolio gweledol i’w arddangos yn yr Eisteddfod ganlynol. Croesawir ceisiadau o pob cyfrwng, boed yn gelfyddyd gain neu'n gelf gymhwysol (gan gynnwys y ddelwedd symudol a'r gelfyddyd berfformio). Dylai’r protffolio ddangos casgliad o waith yn gymysgedd o ddelweddau o’ch gwaith ac datganiad am eich gwaith.

Sut i ymgeisio?
Bydd angen darparu'r holl wybodaeth ganlynol er mwyn cwblhau eich cyflwyniad mewn fformat PDF dim mwy na 8 tudalen i yllecelf@eisteddfod.cymru trwy ebost neu ddolen Dropbox neu WeTransfer erbyn y dyddiad cau

Pwy sy’n cael cystadlu
Mae’r arddangosfa’n agored i unrhyw un:

  1. o dan 30 oed (cyn 31 Awst 2024)
  2. a anwyd yng Nghymru, neu
  3. y ganwyd un o’i r/rhieni yng Nghymru, neu
  4. sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg, neu
  5. sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn 31 Awst 2024

Cyflwyno cais
Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno portffolio gyda hyd at 8 delwedd Jpeg / png 300 dpi, neu ddolen i waith fideo/ berfformio drwy ddanfon PDF at yllecelf@eisteddfod.cymru. Mae hi’n bwysig eich bod yn cyflwyno delweddau clir o’ch gwaith, gan sicrhau fod y gwaith ar gael o 1 Mawrth – 14 Awst 2024. Er mwyn cystadlu, rhaid i’r gwaith fod yn waith a gwblhawyd ers 31 Awst 2022.

Datganiad Artist
Rhaid cynnwys datganiad artist rhwng 200-300 gair ynglŷn â’r gwaith a gyflwynir, h.y. nid bywgraffiad artist, ond datganiad am y gwaith, neu yn waith newydd wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer yr Ŵyl.

Gwerthiant
Dylid nodi pris unrhyw waith sydd ar werth wrth gofrestru. Codir comisiwn o 40% (gan gynnwys TAW) ar unrhyw waith a werthir yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Galw am geisiadau : Pensaernïaeth yng Nghymru

Medal Aur Norah Dunphy am Bensaernïaeth
Cyflwynir er anrhydedd i Norah Dunphy, y ferch gyntaf ym Mhrydain i ennill gradd Bagloriaeth mewn Pensaernïaeth. Yn wreiddiol o Landudno, mynychodd Ysgol John Bright cyn astudio ym Mhrifysgol Lerpwl o dan yr Athro Charles Reilly. Yn ogystal, fe dderbyniodd dystysgrif dosbarth cyntaf mewn dylunio dinesig o dan yr Athro Patrick Abercrombie. Mae'r fedal yn coffáu Thomas Alwyn Lloyd, pensaer a chynlluniwr tref. Roedd yn un o sylfaenwyr y Sefydliad Cynllunio Trefol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif cyn gweithredu fel Llywydd ar y sefydliad hwnnw yn 1933. Roedd yn un o sylfaenwyr Cyngor Diogelu Cymru Wledig.

Plac Teilyngdod
Cyflwynir plac teilyngdod i brosiect adnewyddu neu newydd yng Nghymru sydd o ansawdd a safon dylunio uchel sydd ag uchafswm gwerth cytundebol o £750,000. Er mwyn ystyried unrhyw gais, rhaid cyflwyno tystiolaeth briodol a pherthnasol i gefnogi'r cais. Rhaid i brosiectau arddangos a chyfleu rhagoriaeth o ran dylunio ac ansawdd pensaernïol sy'n cyflwyno ymagwedd lwyddiannus at:

  1. Egwyddorion ac ymarfer creu lleoedd (placemaking) fel y cydnabyddir gan y Siarter a Chanllawiau Creu Lleoedd Cymru
  2. Ddyluniad sy'n arddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol yn y dulliau dylunio wrth ystyried lleoliad a gosodiad, perfformiad adeiladu a datgarboneiddio
  3. Arddull a dulliau dylunio sy'n cyfrannu at ymgyrch i gyflwyno Cymru fel lle arloesol, sy'n cefnogi cymunedau cydlynol, cyfoeth diwylliannol a chynaliadwyedd.

Gwahoddir ceisiadau gan benseiri neu grwpiau o benseiri i gyflwyno prosiectau sydd â dyddiad cwblhau ymarferol rhwng 1 Ionawr 2022 a 1 Mawrth 2024.

Yn ogystal, bydd y ceisiadau sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cynnwys yn arddangosfa Y Lle Celf. Cyhoeddir enwau'r enillydd | enillwyr yn ystod y seremoni wobrwyo.

Canllawiau i ymgeiswyr
Er mwyn ymgeisio, rhaid i'r prosiect fod:

  1. wedi’i adeiladu yng Nghymru
  2. wedi’i gwblhau (neu bron â'i gwblhau) rhwng 1 Ionawr 2022 a 1 Mawrth 2024
  3. wedi cael ei arwain gan bensaer
  4. wedi derbyn caniatâd y cleient er mwyn cyflwyno'r prosiect

Sut i ymgeisio?
Rhaid cyflwyno'r wybodaeth ganlynol er mwyn cwblhau eich cyflwyniad yn llwyddiannus; ar ffurf PDF dim hwy nag 20 tudalen, trwy ebost neu drwy ddolen Dropbox | WeTransfer cyn y dyddiad cau.

Gwybodaeth am y prosiect

  1. Enw'r prosiect
  2. Enw pensaer y prosiect
  3. Arwynebedd mewnol 'gross' mewn metrau sgwâr, ac yn achos prosiectau dylunio tirwedd | trefol yn bennaf, arwynebedd allanol 'gross' mewn metrau sgwâr
  4. Arwynebedd mewnol 'nett' mewn metrau sgwâr
  5. Gwerth y contract | cost adeiladu’r prosiect gan gynnwys adeiladu a dodrefnu os caiff ei wneud | goruchwylio gan y pensaer (ac eithrio costau tir a ffioedd)
  6. Math o gytundeb (ar gyfer prosiectau yn y DU), dyddiad cymeradwyo cynllunio a dyddiad meddiannu’r prosiect

Enw a chyfeiriaid practis pensaer | stiwdio

  1. Manylion cyswllt rheolwr prosiect | pensaer, cleient a chontractwr
  2. Manylion cyswllt ar gyfer ymweliadau gan y detholwyr
  3. Manylion cyswllt y wasg (dewisol)
  4. Manylion cyswllt ffotograffydd
  5. Os yn berthnasol, dylech sicrhau cytundeb rhwng yr holl randdeiliaid ar sut y dylid credydu'r prosiect os yn gweithio ar y cyd â chwmni neu bensaer arall.

Disgrifiad o'r prosiect
500 gair yn disgrifio’r prosiect sy’n nodi:

  1. 'Brîff' gan y cleient
  2. Lleoliad, safle neu gyfyngiadau perthnasol (byddwn yn gwneud pob ymdrech i beidio â chyflwyno gwedd negyddol i gynllunio)
  3. Ymateb y pensaer i'r brîff, y deunyddiau a dull adeiladu
  4. Crynodeb o'r amserlen
  5. Cyfyngiadau parthed y gyllideb a'r rhaglen adeiladu
  6. Datganiad byr yn crynhoi sut mae'r prosiect yn cyfrannu at y gymuned ac yn ymateb i egwyddorion dylunio cynhwysol, lle bo'n berthnasol

Cyflwynir crynodeb o’r atebion gerbron y panel detholwyr, felly sicrhewch eich bod yn cyflwyno digon o wybodaeth am y prosiect.

Ymgynghorwyr allweddol
Cyfeiriwch at holl ymgynghorwyr allweddol y prosiect, e.e. Peirianyd | Peirianwyr Strwythurol, Peiriannydd | Peiranwyr Gwasanaethau, Pensaer | Penseiri Tirwedd ac ati, gyda'u manylion cyswllt. Cynabyddir yr ymgynghorwyr mewn datganiadau i'r wasg ac ar dystysgrifau gwobrau.

Delweddau
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno'r canlynol:

  1. 8 delwedd JPEG, gydag isafswm lled a | neu uchder o 1000px
  2. Cymysgedd o luniau allanol a mewnol o'r prosiect
  3. Cyfleu’r ffordd y mae’r prosiect yn ymwneud â’i gyd-destun, gan fod y delweddau hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion beirniadu
  4. Lluniau llydan a lluniau agos sy'n crynhoi elfennau o-ddydd-i-ddydd y prosiect
  5. Peidio â chynnwys logos cwmni na thestun ar unrhyw ddelweddau
  6. Cydnabod awdur pob ffotograff
  7. Cynllun lleoliad (yn dangos y prosiect yn ei gyd-destun, e.e. 1:1250)
  8. Cynllun safle
  9. Cynllun llawr gwaelod (yn dangos y brif fynedfa)
  10. Cynllun llawr nodweddiadol

Galw am geisiadau: Ysgoloriaeth Bensaernïaeth

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth er mwyn hybu pensaernïaeth a dylunio yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn eu galluogi i ehangu ei (h)ymwybyddiaeth o bensaernïaeth greadigol ac ymdrechu am ragoriaeth ym maes dylunio. Mae'n ysgoloriaeth i'w dal am flwyddyn yn unig a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn £1,500 i hyrwyddo gyrfa a datblygu'u (h)astudiaeth.

Disgwylir i enillydd yr ysgoloriaeth gyflwyno traethawd gweledol i’w arddangos yn yr Eisteddfod ddilynol. Croesewir ceisiadau o feysydd pensaernïaeth, tirwedd neu ddylunio trefol. Dehonglir y gair pensaernïaeth yn yr ystyr ehangaf.

Canllawiau Ymgeisio
Bydd yr ysgoloriaeth yn agored i bobl mewn addysg, sy'n astudio pensaernïaeth yn ystod a hyd at flwyddyn ar ôl cwblhau gradd MA | MSc. Bydd gan ymgeiswyr gysylltiadau cryf â Chymru, wedi'u geni yng Nghymru neu o dras Cymreig, neu wedi byw a gweithio yng Nghymru am y tair blynedd ddiwethaf.

Sut i ymgeisio?
Bydd angen darparu'r holl wybodaeth ganlynol er mwyn cwblhau eich cyflwyniad mewn fformat PDF dim hwy na 12 tudalen a'i anfon at yllecelf@eisteddfod.cymru trwy ebost neu ddolen Dropbox neu WeTransfer cyn y dyddiad cau.

  1. Enw
  2. Cyfeiriad
  3. Ffôn symudol
  4. E-bost
  5. Datganiad 300 gair amdanoch eich hun a sut y bydd y wobr ariannol yn cael ei defnyddio i gynorthwyo gyda'ch astudiaethau a'ch uchelgais gyrfa
  6. Delweddau o'ch gwaith

Cyflwynir crynodeb o atebion y cwestiynau uchod gerbron y panel detholwyr ac i ddylanwadu ar y sylw golygyddol a roddir i'r gystadleuaeth. Sicrhewch eich bod yn darparu atebion llawn.

Rhoddir y wobr yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf gyda chefnogaeth Comisiwn Dylunio Cymru a Chymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru. Nod y wobr yw codi proffil pensaernïaeth yng Nghymru drwy gydnabod prosiectau am eu hansawdd uchel a’r ffordd y maent yn cyfleu cyfoeth pensaernïaeth a’i werth i ddiwylliant Cymru.

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu