1. Pwy sy’n cael cystadlu?
    1. Mae cystadlaethau llwyfan ym maes cerddoriaeth yn agored i unrhyw un sy’n cydymffurfio â Rheol Gyffredinol Rhif 12. Nid yw’r cyfyngiad hwn yn berthnasol i arweinyddion nac athrawon cerddoriaeth na chystadleuwyr cyfansoddi.
    2. Nodwch bod y cystadlaethau’n agored i unrhyw un a anwyd yng Nghymru, y ganwyd un o'u rhieni yng Nghymru, neu sy’n gallu siarad neu ysgrifennu Cymraeg, neu unrhyw un sydd wedi byw yng Nghymru am flwyddyn cyn 31 Awst 2024, ac eithro’r ysgoloriaethau offerynnol ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts lle mae gofyn i’r cystadleuydd fod wedi byw yng Nghymru am 3 blynedd cyn 31 Awst 2024.
  2. Traw
    Defnyddir y Traw Cyngerdd Safonol Rhyngwladol (A-440 Hz) ym mhob cystadleuaeth leisiol ac offerynnol sy’n gofyn am biano.
  3. Cyweirnod
    Yr argraffiad a’r cyweirnod a nodir yn unig a ganiateir ym mhob cystadleuaeth.
  4. Cadenza
    Mae rhyddid i gystadleuwyr amrywio cadenza neu osod i mewn gadenza neu nodau uchel dewisol lle bo’n arferol, ond rhaid hysbysu’r beirniaid o’r newidiadau.
  5. Cyfeilyddion
    Rhaid i gystadleuwyr dderbyn gwasanaeth cyfeilyddion swyddogol yr Eisteddfod ym mhob cystadleuaeth ac eithrio corau, cystadlaethau o sioeau cerdd a chystadlaethau offerynnol. Bydd yr Eisteddfod yn ceisio sicrhau gwasanaeth yr un cyfeilydd yn y rhagbrawf a’r prawf terfynol.
  6. Gwobr Goffa David Ellis
    Bydd y beirniaid yn dewis hyd at dri cystadleuydd o’r categori lleisiol dros 25 oed i gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis. Ni chaiff unrhyw un gynnig ar fwy nag un o’r cystadlaethau yn y categori hwn.
  7. Gwobr Goffa Osborne Roberts
    Bydd y beirniaid yn dewis hyd at dri cystadleuydd o’r categori lleisiol o dan 25 oed i gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Osborne Roberts. Ni chaiff unrhyw un gynnig ar fwy nag un o’r cystadlaethau yn y categori hwn.
  8. Hawlfraint
    Cyfrifoldeb corau, partïon, grwpiau ac unigolion yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarnau hunanddewisiad. Rhaid nodi’r manylion hyn wrth gofrestru. Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau pellach yn adran ‘Cystadlu’ ar wefan yr Eisteddfod.
  9. Hunanddewisiad
    1. Gall cystadleuydd ddewis cyweirnod mewn cystadlaethau sydd â hunanddewisiad, ond rhaid i’r cyweirnod hwnnw ymddangos mewn copi sydd wedi’i gyhoeddi gan gwmni cydnabyddedig.
    2. Caniateir canu mewn unrhyw gyweirnod yng nghystadlaethau Canu Emyn | Cân o Fawl Agored, Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd ac Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed.
    3. Rhaid uwchlwytho copi o bob darn yn y cywair a ddewiswyd erbyn 15 Mehefin, gyda’r geiriau Cymraeg wedi’u gosod ar y gerddoriaeth.
    4. Rhaid canu’r darnau lleisiol yn y Gymraeg. Fodd bynnag, caniateir i gorau gynnwys un gân heb eiriau yn eu rhaglen os dymunant. Bydd y geiriau Cymraeg ar gyfer y darnau gosod yn cael eu gosod ar dudalennau cofrestru’r cystadlaethau perthnasol ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru, a dylid ebostio cystadlu@eisteddfod.cymru gydag unrhyw ymholiadau.
    5. Ni chaniateir newid y darn hunanddewisiad gwreiddiol ar ôl 15 Mehefin.
  10. Corau
    1. Aelodaeth: Ni chaiff unrhyw un ganu mewn côr heb fod yn aelod cyflawn o’r côr hwnnw am ddeufis yn union cyn yr Eisteddfod, ac ni all unrhyw un ganu mewn mwy nag un côr yn yr un categori corawl.
    2. Rhannau Unawdol: Ni chaniateir i unrhyw gôr ddewis darnau lle rhoddir lle blaenllaw i unawdwyr. Ni ddylid dewis caneuon o arddull sy’n defnyddio côr fel ‘cantorion cefndir’ am gyfnod sylweddol.
    3. Amseru: Amserir y perfformiad o’r nodyn cyntaf i’r nodyn olaf o bob cân yn unol â gofynion y gystadleuaeth i gynnwys nifer amhenodol o ganeuon gyda neu heb gyfeiliant. Bydd corau’n cael eu cosbi am fynd dros yr amser. Ceir rhestr o’r cosbau hyn yn y Rheolau ac Amodau Cyffredinol yng nghefn y Rhestr Testunau.
    4. Rostra: Darperir rostra gan yr Eisteddfod.
  11. Dehongliad Cyfansoddwr o Gymro
    Person sydd wedi’i eni yng Nghymru, sydd o dras Gymreig neu sydd wedi gweithio yng Nghymru.
  12. Ysgoloriaethau
    Ni ellir ennill yr un ysgoloriaeth fwy nag unwaith. Mae’r arian a gynigir ym mhob ysgoloriaeth i’w ddefnyddio i hyrwyddo gyrfa’r unigolyn, a disgwylir i enillwyr brofi i’r Eisteddfod bod yr arian wedi’i wario ar hyn. I hawlio’r ysgoloriaeth mae’n rhaid cysylltu â Swyddfa’r Eisteddfod cyn diwedd mis Medi blwyddyn yr Eisteddfod gyfredol.
    Gweler hefyd Amod Arbennig 1 uchod.

    *Gweler rheol rhif 12, Rheolau ac Amodau Cyffredinol – Hawl i Gystadlu*.
  13. Cystadlu
    Ni all unrhyw un gystadlu fwy nag unwaith yn yr un gystadleuaeth lwyfan.
  14. Oedran
    Nodwch bod rhaid i’r cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst 2024.
  15. Copïau
    Nodwch ei bod yn anghyfreithlon gwneud copïau ychwanegol eich hun o gerddoriaeth, barddoniaeth neu unrhyw waith sydd wedi’i gyhoeddi.
  16. Cystadlaethau cyn-derfynol a therfynol
    Bydd disgwyl i gystadlaethau'r adran hon ymddangos mewn rownd gyn-derfynol, a dyfernir y tri gorau i gystadlu yn y rownd derfynol oni nodir yn wahanol.

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y Rheolau ac Amodau Cyffredinol cyn cystadlu.