Beth yw’r Eisteddfod?
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o wyliau mawr y byd, ac yn dathlu ein hiaith a’n diwylliant yma yng Nghymru. Mae’n ŵyl deithiol sy’n ymweld â gogledd a de Cymru yn eu tro, gan ddenu dros 150,000 o ymwelwyr yn ystod wythnos gyntaf Awst bob blwyddyn. Gŵyl gystadleuol yw’r Eisteddfod gyda thua 5,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan mewn bron i 200 o gystadlaethau mewn sawl maes a disgyblaeth.
Cyflwyniad
Mae pob un o’n cystadlaethau’n dilyn y rheolau cyffredinol isod a’r amodau arbennig ar ddechrau pob adran yn y Rhestr. Weithiau, ceir amodau ychwanegol sy’n berthnasol i gystadlaethau unigol. Rydyn ni’n defnyddio’r geiriau canlynol yng nghyd-destun y rheolau:
- Yr Eisteddfod: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Cyngor: Cyngor yr Eisteddfod
- Llys: Llys yr Eisteddfod
- Panel Canolog: Y Panel Canolog sydd â throsolwg dros benderfyniadau artistig/cystadlu'r Pwyllgor Testun lleol
- Pwyllgor Gwaith: y Pwyllgor Gwaith lleol
- Swyddogion: y swyddogion a benodir gan Brif Weithredwr yr Eisteddfod
- Yr Ŵyl: yr Eisteddfod y cynhelir y gystadleuaeth ynddi
- Os oes gwahaniaeth yn ystyr y geiriau Cymraeg a Saesneg yn y rheolau, y Gymraeg fydd yn cael ei dderbyn fel y geiriad swyddogol
- Rydyn ni’n cymryd pob gofal rhesymol am y gwaith sy’n cael ei gyflwyno i gystadlaethau’r Eisteddfod, ac nid ydyn ni’n gyfrifol am unrhyw oedi, colled, niwed nac anhwylustod i unrhyw gystadleuydd neu gystadleuwyr nac unrhyw ddifrod neu anffawd i offerynnau.
Iaith
Cymraeg yw iaith yr Eisteddfod
- Mae’r holl gystadlu a chyfansoddiadau yn y Gymraeg, oni nodir yn wahanol mewn unrhyw gystadleuaeth unigol. Mae angen cyfiawnhad artistig pendant i ddefnyddio unrhyw iaith ond y Gymraeg mewn detholiadau neu gystadlaethau hunanddewisiad llwyfan, a dylid defnyddio cyn lleied â phosibl o unrhyw iaith arall;
- Gallwch ddefnyddio unrhyw gerddoriaeth Gymraeg neu offerynnol, yn ddibynnol ar hawlfraint, mewn unrhyw gystadleuaeth gyda cherddoriaeth gefndir;
- Mae’n rhaid sicrhau bod pob gwaith llwyfan a chyfansoddi’n osgoi deunydd a chyfeiriadau enllibus, ynghyd â defnydd o iaith anweddus a allai beri tramgwydd i eraill.
Cystadlu
Pwy sy’n cael cystadlu?
Mae ein cystadlaethau ar agor i unrhyw un:
- sydd wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sydd ag un o’u rhieni wedi’u geni yng Nghymru, neu
- sy’n siarad yr iaith neu ysgrifennu'n Gymraeg, neu
- sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am flwyddyn cyn 31 Awst flwyddyn yr ŵyl. Noder fod rhaid bod wedi byw neu weithio yng Nghymru am dair blynedd i gystadlu am ein hysgoloriaethau offerynnol, Ysgoloriaeth W Towyn Roberts, a gwobrau’r adran Celfyddydau Gweledol.
Cystadlaethau llwyfan
Rydyn ni’n diffinio ein cystadlaethau llwyfan fel y rheini sydd â dyddiad cau ar 1 Mai.
- Cofrestru i gystadlu: Bydd ein porth cystadlu’n cau am 23:59 ar 1 Mai, ac ni fydd modd cofrestru ar ôl y dyddiad hwn. Os yn berthnasol, mae’n rhaid cyflwyno darnau hunanddewisiad erbyn 15 Mehefin;
- Oedran: Mae’n rhaid i bob cystadleuydd fod o fewn cwmpas oedran y gystadleuaeth ar 31 Awst
- Ni all unrhyw un gystadlu fwy nag unwaith yn yr un gystadleuaeth llwyfan.
- Trefn cystadlu: Ceir rownd gynderfynol (rhagbrawf) yn ein cystadlaethau unigol, deuawd, triawd neu bedwarawd ac ensemble. Bydd yr holl gystadlaethau torfol yn perfformio mewn rownd derfynol yn unig;
- Rhaglen gystadlu: Y cyfarwyddwr sy’n pennu’r drefn gystadlu ym mhob cystadleuaeth ac mae’n rhaid i bawb gystadlu yn y drefn hon, yn y rownd gynderfynol a’r rownd derfynol;
- Nid ydyn ni’n caniatáu i gystadleuwyr ddadlau na thrafod y gystadleuaeth gyda’r beirniaid, nac ychwaith ymyrryd â’r beirniaid neu gystadleuwyr eraill mewn unrhyw fodd.
Amseru
Amserir perfformiad hunanddewisiad o'r nodyn cyntaf i'r olaf fesul darn (Cerddoriaeth) neu o'r symudiad cyntaf i'r olaf (Dawns | Llefaru | Theatr). Amseriad swyddogol yr Eisteddfod a ddefnyddir er mwyn penderfynu os yw cystadleuydd(wyr) wedi mynd dros yr amser a ganiateir. Hysbysir y beirniad os yw'r perfformiad yn para'n hwy nag amser penodedig y gystadleuaeth a chosbir y cystadleuydd(wyr) yn unol â'r raddfa ganlynol:
- hyd at 30 eiliad: dim cosb
- 30 eiliad – 1 munud: 1 safle
- Dros 1 munud: ni fydd modd derbyn gwobr
Cwyno a Gwrthwynebu
Os bydd gan gystadleuydd gŵyn, rhaid dilyn y drefn ganlynol:
- Ni ellir gwrthwynebu neu gwyno yn erbyn unrhyw ddyfarniad yn gyhoeddus yn yr Ŵyl.
- Gellir cyflwyno cwyn ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr Artistig o fewn awr i’r dyfarniad terfynol mewn cystadleuaeth llwyfan neu, mewn achos rhagbrawf, o fewn hanner awr i gyhoeddi dyfarniad y rhagbrawf, gydag enw a gwybodaeth gyswllt y sawl sy’n cwyno.
- Bydd y wobr yn cael ei hatal tan y bydd y mater wedi’i setlo.
Pwyllgor Apeliadau
Bydd y Pwyllgor Apeliadau yn dyfarnu mewn unrhyw ddadl neu wahaniaeth barn ar unrhyw fater yn codi o’r Rheolau ac Amodau neu mewn unrhyw fater ynglŷn ag unrhyw gystadleuaeth.
- Sail unrhyw apêl yw cyhuddiad bod amod cystadleuaeth unigol, amod gyffredinol, neu amod arbennig wedi’i thorri. Ni ellir apelio ar sail chwaeth neu ddehongliad beirniaid. Bydd penderfyniad y Pwyllgor Apeliadau yn derfynol.
- Bydd y Pwyllgor Apeliadau yn cynnwys tri o swyddogion y Llys a thri o swyddogion y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â chadeirydd neu is-gadeirydd y Cyngor yn gadeirydd ar y pwyllgor. Bydd tri aelod yn ffurfio cworwm.
Newid beirniaid
Mewn ymgynghoriad gyda swyddogion y pwyllgor testun lleol a chadeirydd y Panel, bydd gan y Cyfarwyddwr Artistig yr hawl i:
- ddewis beirniad yn lle unrhyw un na all weithredu oherwydd salwch neu achos annisgwyl;
- ddewis beirniad ychwanegol os oes angen.
Darperir canllawiau llawn ar gyfer beirniaid, ac mae’r rhain ar gael ar-lein neu drwy gysylltu â cystadlu@eisteddfod.cymru
Amodau Beirniadu Llwyfan
- Ni chaniateir i aelod neu gyn-aelod o’r Pwyllgor Gwaith nac o unrhyw un o’r is-bwyllgorau lleol feirniadu yn yr Ŵyl gyfredol.
- Ni chaiff beirniaid ar gystadlaethau llwyfan gystadlu ar unrhyw gystadleuaeth llwyfan arall ac eithrio y caniateir iddynt fod yn aelodau o gôr neu barti mewn adran nad ydynt yn beirniadu ynddi. Caniateir iddynt hefyd gystadlu mewn cystadlaethau cyfansoddi ym mhob adran.
- Ni chaiff beirniad yn yr Ŵyl weithredu fel cynhyrchydd, arweinydd, hyfforddwr na gosodwr yn yr adran maent yn feirniad ynddi.
- Ni chaniateir i gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl gystadlu yn y cystadlaethau y gwahoddwyd hwy i gyfeilio ynddynt.
- Ni chaiff unrhyw un sydd yn ddisgybl preifat i’r beirniad neu’n berthynas agos iddynt gystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth yn yr adran y bo’r beirniad hwnnw’n beirniadu ynddi.
- Gofynnir am feirniadaeth ysgrifenedig gogyfer pob un o’r cystadleuwyr sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth. Gellir trefnu i gyfieithu beirniadaethau os nad yw’r beirniaid yn hyderus i ysgrifennu yn Gymraeg.
- Gwobrwyir enillydd ar sail barn mwyafrif y beirniaid. Mewn achosion arbennig bydd gan y Cyfarwyddwr Artistig a’r Pwyllgor Apeliadau yr hawl i benodi canolwr.
- Os nad oes teilyngdod, bydd gan y beirniaid yr hawl i atal y wobr neu ran ohoni.
Cystadlaethau cyfansoddi a chreu
Diffinnir cystadlaethau Cyfansoddi a Chreu fel y cystadlaethau hynny sydd â dyddiad cau yn wahanol i 1 Mai blwyddyn yr Ŵyl gyfredol.
- Cofrestru i gystadlu: Bydd ein porth cystadlu’n cau am 23:59 ar y dyddiad cau penodedig a nodir yn y Rhestr Testunau. Ni fydd modd cofrestru ar ôl y dyddiad hwn.
- Cyflwyno Cyfansoddiadau: Rhaid uwchlwytho pob cyfansoddiad i’r porth gan ddilyn y cyfarwyddiadau a thalu’r taliad cywir wrth gofrestru i gystadlu.
- Cyfrinachedd: Rhaid i bob cyfansoddiad nodi rhif a theitl y gystadleuaeth a ffugenw’r cystadleuydd yn unig gan ymdrechu i ddileu neu guddio unrhyw fanylion fyddai’n datgelu manylion y cystadleuydd
- Gwaith Gwreiddiol: Rhaid i’r holl gyfansoddiadau a chynhyrchion a anfonir at yr Eisteddfod fod yn waith gwreiddiol a dilys y cystadleuydd (neu gystadleuwyr pan ganiateir cywaith). Ni chaniateir anfon gwaith sydd wedi’i wobrwyo o’r blaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol na gwaith sydd wedi’i gyhoeddi yn rhannol nac yn gyfan mewn unrhyw gyfrwng.
- Deallusrwydd Artiffisial (D.A) Artificial Intelligence: Oni nodir yn wahanol, ni chaniateir meddalwedd sydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu neu gynorthwyo yn y broses o greu cyfansoddiadau.
- Ni chaniateir anfon yr un gwaith yn ei hanfod i fwy nag un gystadleuaeth.
Amodau Beirniadu (Cyfansoddi)
- Gall beirniaid cystadlaethau cyfansoddi gystadlu ym mhob cystadleuaeth gyfansoddi a llwyfan ac eithrio'r gystadleuaeth gyfansoddi y maent yn eu beirniadu.
- Ni chaiff unrhyw un sydd yn ddisgybl i’r beirniad neu’n berthynas agos iddynt gystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth y bo’r beirniad hwnnw’n ei beirniadu.
- Bydd y beirniaid yn trosglwyddo i’r Llys yr hawlfraint ar eu beirniadaethau.
- Gofynnir am feirniadaeth ysgrifenedig gryno gogyfer â'r holl gystadlaethau Cyfansoddi a Chreu i’w chynnwys yn y cyfansoddiadau. Darperir canllawiau unigol fesul adran/cystadleuaeth i’r beirniad eu dilyn.
- Gwobrwyir enillydd ar sail barn mwyafrif y beirniaid. Mewn achosion arbennig bydd gan y Cyfarwyddwr Artistig a’r Pwyllgor Apeliadau'r hawl i benodi canolwr.
- Os nad oes teilyngdod, bydd gan y beirniaid yr hawl i atal y wobr neu ran ohoni.
Dysgwyr
Mae'r holl gystadlaethau yn agored i siaradwyr newydd, ble bynnag maent ar y llwybr i ddarganfod yr iaith.
- Mae’r cystadlaethau ar gyfer dysgwyr Cymraeg dros 16 oed, ar wahân i'r gystadleuaeth ar gyfer ieuenctid sy'n agored i unigolion o dan 19 oed.
Hawlfraint perfformio
Cyfrifoldeb y cystadleuydd yw sicrhau pob caniatâd priodol ar gyfer cynnwys unrhyw ddarnau hunanddewisiad o fewn y perfformiad
- Wrth ddewis darn ‘hunanddewisiad’, y cystadleuydd sydd yn gyfrifol am sicrhau’r hawl gan y cyhoeddwyr i berfformio darn o waith yn gyhoeddus, ac am sicrhau bod unrhyw gyfieithiad yn gyfieithiad swyddogol sydd wedi ei gofrestru a’i gymeradwyo gan y cyhoeddwr. Gofynnir am brawf bod yr hawliau hyn wedi eu rhoi.
- Cyfrifoldeb y darlledwr yw sicrhau’r hawl i ddarlledu darn o waith. Gall swyddfa’r Eisteddfod ddarparu enghraifft o lythyr i’w anfon at y cyhoeddwyr gyda geiriad addas, yn ogystal â manylion cyswllt yr amrywiol gyhoeddwyr. Gall methu sicrhau’r hawl i berfformio olygu nad oes hawl i berfformio yn gyhoeddus mewn Eisteddfod.
- Ceir gymorth ar glirio hawlfraint drwy ffonio Adran Gymraeg PRS ar 020 3741 4033 neu e-bostio: welshtvprogrammes@prsformusic.com.
- Nid oes angen caniatâd i ddefnyddio’r darnau sy’n ymddangos yn y Rhestr Testunau. Anogir pawb i ddewis caneuon na fyddant yn creu trafferthion wrth eu darlledu. Dylid osgoi ambell gyfansoddwr/grŵp gan nad oes modd sicrhau hawlfraint darlledu’r gân.
Hawlfraint Cyfansoddiadau
- Bydd yr awdur yn cadw yn eiddo iddynt eu hunain berchnogaeth yr hawlfraint ym mhob cyfansoddiad, ac unrhyw freindal perthnasol.
- Yn unol â’r amod, bydd awdur y gwaith, yn gyfnewid am y gwasanaeth y bydd yr Eisteddfod yn ei roi drwy ei feirniadu, yn rhoi’r hawliau canlynol i’r Eisteddfod heb i’r Eisteddfod dalu unrhyw freindal neu daliad arall:
- i gyhoeddi unrhyw gyfansoddiad am y tro cyntaf yn ystod wythnos yr Ŵyl neu o fewn tri mis i ddiwrnod olaf yr Ŵyl heb ymgynghori â’r awdur;
- i ganiatáu i’r Eisteddfod ddefnyddio’r gwaith buddugol yn y dyfodol at ddibenion yr Eisteddfod, er enghraifft fel darnau prawf neu er mwyn hyrwyddo’r Eisteddfod, heb ymgynghori â’r awdur.
- Ymhellach bydd yn rhaid i awdur unrhyw waith a gyhoeddir gan yr Eisteddfod gydnabod cysylltiad y gwaith â’r Eisteddfod bob tro y’i defnyddir ganddynt fel perchennog yr hawlfraint ynddo.
- Bydd yr awdur yn rhoi’r hawl i Brif Weithredwr a/neu Gyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod agor yr amlen dan sêl os yw beirniad/beirniaid y gystadleuaeth neu olygydd cyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yn argymell cyhoeddi’r gwaith.
- O dan amgylchiadau arbennig, caniateir agor yr amlen dan sêl ar ôl cyfnod o hanner can mlynedd wedi’r Eisteddfod mewn ymgynghoriad â’r Llyfrgell Genedlaethol.
Gwobrau, Tlysau, Ysgoloriaethau a Grantiau Teithio
- Gwobrau: Telir y gwobrau ariannol drwy drosglwyddiad BACS i gyfrif y cystadleuydd(wyr) yn dilyn canlyniad pob cystadleuaeth, cyn belled â bod manylion cywir y cystadleuydd(wyr) wedi'i/u g(c)yflwyno
- Tlysau: Bydd y mwyafrif o’r tlysau, cwpanau a thariannau’n cael eu dal am flwyddyn yn unig, a dylid cysylltu gyda cystadlu@eisteddfod.cymru i drefnu lleoliad ac amser i ddychwelyd y tlws cyn yr Eisteddfod nesaf.
- Ysgoloriaethau: Dim ond unwaith yn unig y gellir ennill yr un ysgoloriaeth, ond gellir cystadlu eto i ennill y gwobrau. Mae’r arian a gynigir ym mhob ysgoloriaeth i’w ddefnyddio i hyrwyddo gyrfa a disgwylir i enillwyr brofi bod yr arian yn cael ei wario i'r perwyl hwn. Dylid cysylltu â cystadlu@eisteddfod.cymru am ragor o wybodaeth
- Grantiau Teithio: Hanfod y grant teithio yw cynorthwyo grwpiau torfol i gystadlu yn yr Eisteddfod. Cyflwynir y cais ar sail y pellter rhwng y ganolfan ymarfer arferol a lleoliad maes yr Eisteddfod gyfredol. Gellir gwneud cais ar ran parti, grŵp, côr sydd yn cydymffurfio â'r graddfeydd pellter canlynol:
- Graddfa A: Cystadleuwyr sydd a'u canolfan ymarfer rhwng 40 a 90 milltir o’r maes
- Graddfa B: Cystadleuwyr sydd a'u canolfan ymarfer rhwng 91 a 140 milltir o’r maes
- Graddfa C: Cystadleuwyr sydd a'u canolfan ymarfer dros 141 milltir o’r maes
- Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru am fanylion. Rhaid cyflwyno’r ffurflen wedi’i chwblhau cyn 31 Awst blwyddyn yr Ŵyl gyfredol.
Recordio, ffilmio a darlledu
Y mae Llys yr Eisteddfod yn cadw’n eiddo’i hun yn unig yr hawl:
- i wneud recordiadau o holl weithgareddau’r Eisteddfod neu unrhyw ran ohonynt, gan gynnwys gweithgareddau’r Orsedd (‘y Gweithgareddau’) ac unrhyw ddetholiad o unrhyw eitem lenyddol, gerddorol neu ddramatig a gyflwynir (‘y Detholion’);
- i ddarlledu’r Gweithgareddau a/neu’r Detholion, trwy gyfrwng sain, teledu, y rhyngrwyd, neu unrhyw gyfrwng arall boed yn hysbys ar hyn o bryd neu a ddyfeisir yn y dyfodol;
- Wrth gofrestru mae’r person â gofal yn cydnabod fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad cyhoeddus a bydd aelodau yn ymddangos ar lwyfan o flaen y cyhoedd sydd yn mynychu’r digwyddiad.
- Yn arwain at, ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, rhennir enwau’r cystadleuwyr gyda’r wasg gan gynnwys cwmnïau teledu a radio ac ar blatfformau digidol. Mae posibilrwydd y bydd enwau a lluniau cystadleuwyr Eisteddfodau yn ymddangos yn gyhoeddus ar wefan ac ar ap yr Eisteddfod (e.e. canlyniadau’r Eisteddfodau) ac ar blatfformau cyhoeddus eraill gan gynnwys ond heb gyfyngiad, papurau newydd, papurau bro, gwefannau ac ar gyfryngau cymdeithasol.
- Cyfrifoldeb y person â gofal yw hysbysu’r Eisteddfod o unrhyw achos dros beidio â datgelu gwybodaeth unrhyw aelod ar y teledu, y radio a'r we. Mae’r Eisteddfod yn barod i gydymffurfio, cydweithio a hwyluso’r broses er mwyn sicrhau fod pob cystadleuydd yn medru cystadlu yn yr Eisteddfodau yn unol â’u dymuniad.
I’r perwyl hynny mae cystadleuwyr yn ildio unrhyw hawliau moesol sydd ganddynt o dan Bennod IV Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 ac o dan unrhyw ddeddfau eraill sydd mewn grym yn y presennol neu yn y dyfodol yn unrhyw le yn y byd ac yn rhoi i’r Eisteddfod unrhyw ganiatâd angenrheidiol i ddefnyddio’u cyfraniadau at weithgareddau’r Eisteddfod.
Polisi diogelu
Cyhoeddir Polisi Diogelu'r Eisteddfod yn y Rhestr Testunau ac ar-lein.
Drwy gofrestru i gystadlu ar-lein, mae rhieni | gwarchodwyr | gofalwyr ac athrawon ymgeiswyr o dan 18 oed (neu oedolion bregus o unrhyw oed) yn cadarnhau eu bod yn rhoi (neu wedi derbyn) y caniatâd angenrheidiol ar gyfer y cystadleuwyr i gymryd rhan yn yr Eisteddfod. Heb ganiatâd, ni all yr Eisteddfod dderbyn ceisiadau i gystadlu.