1. Llwyfan
    • Ni chaniateir i unrhyw un ddawnsio mewn mwy nag un parti yn yr un gystadleuaeth.
    • Disgwylir i’r cystadleuwyr ddod â’u cyfeilydd/ cyfeiliant eu hunain.
    • Gofynnir i bob parti uwch-lwytho cynllun llwyfan gyda lleoliad ac unrhyw anghenion technegol a thraciau sain (ar ffurf MP3) erbyn 15 Mehefin. [Gweler rheol ‘Hawlfraint Perfformio’ yn y Rheolau ac Amodau Cyffredinol] . Dylai unrhyw gerddoriaeth a ddefnyddir fod â geiriau Cymraeg neu heb eiriau o gwbl.
    • Rhaid paratoi a chlirio’r llwyfan o fewn yr amser penodedig.
  2. Maint y llwyfan: Am gynllun llwyfan cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru
  3. Hawlfraint: Cyfrifoldeb partïon, grwpiau neu unigolion yw sicrhau hawlfraint unrhyw ddarnau hunanddewisiad. Rhaid nodi hyn wrth gofrestru. Ceir canllawiau a chyfarwyddiadau pellach yn adran ‘Cystadlu’ ar wefan yr Eisteddfod. Dylid uwch-lwytho copi o unrhyw ddarnau erbyn 15 Mehefin.
  4. Cyfoes I Disgo I Hip Hop Stryd ayyb:
    • Beirniedir y perfformiadau ar sail natur greadigol, elfennau cyfansoddi a choreograffi a chelfyddyd dawnsio’r rhai sy’n cystadlu.
    • Gofynnir i gystadleuwyr uwch-lwytho crynodeb o’r gwaith, ynghyd â theitl a chyfansoddwr y gerddoriaeth erbyn 15 Mehefin.
    • Ni chaniateir goleuadau arbennig, setiau nac unrhyw offer cynhyrchu arall ar gyfer y cystadlaethau. Caniateir defnyddio mân gelfi, sy’n gludadwy gan yr unigolion fydd yn eu defnyddio.
    • Disgwylir i’r cystadleuwyr ddewis gwisg/ gwisgoedd syml na fydd yn amharu ar eu symudiadau ar y llwyfan.

DS Dylech sicrhau eich bod wedi darllen y rheolau ac amodau cyffredinol cyn cystadlu.